Caws pob (Welsh rarebit)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Welsh rarebit)
Caws Pob (Welsh Rarebit)

Saws sawrus ydy Caws pob, Welsh rarebit, Welsh rabbit, a gynhyrchir gyda caws wedi ei doddi a chynwysion eraill, a caiff ei weini'n boeth ar ben bara wedi ei dostio.[1][2]

Enw[golygu | golygu cod]

Mae'r enw'n tarddu o'r 18g gyda'r term Saesneg am Gymreig.[3] Caiff Welsh rarebit ei gynhyrchu gan ddefnyddio Caws Cheddar fel rheol, sy'n wahanol i fondue Ewropeaidd sy'n draddodiadol yn dibynnu ar gaws o'r Swistir; gellir cysidro fod Welsh rarebit yn amrywiaeth lleol ar y traddodiad hwn.[4]

Traddodiad a chynhwysion[golygu | golygu cod]

"Eighteenth-century English cookbooks reveal that it was then considered to be a luscious supper or tavern dish, based on the fine cheddar-type cheeses and the wheat breads […] . Surprisingly, it seems there was not only a Welsh Rabbit, but also an English Rabbit, an Irish and a Scotch Rabbit, but nary a rarebit."[5]

Mae amryw o rysetiau gwahanol ar gyfer Welsh rarebit, sy'n cynnwys cwrw, mwstard, pupur cayenne neu paprika[6][7][8] a Saws Swydd Gaerwrangon.[9][10] Gellir hefyd cynhyrchu'r saws drwy gyfuno caws a mwstard i greu saws béchamel[4][11] neu Mornay sauce). Mae rhai rysetiau ar gyfer Welsh rarebit wedi dod yn gyffredin yn llawlyfrau Escoffier, Saulnier ac eraill, sy'n tueddu i ddefnyddio'r sillafiad rarebit yn hytrach na rabbit (sy'n golygu cwningen yn Saesneg), er mwyn pwysleisio nad yw'r bwyd yn cynnwys cig. Gellir prynu'r saws wedi ei rewi gan Stouffer's mewn archfarchnadoedd yn yr Unol Daleithiau.[12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Chris Roberts (2006). Heavy Words Lightly Thrown: The Reason Behind Rhyme. Thorndike Press. ISBN 0786285176
  2. Buckland, Helen; Keepin, Jacqui (2017-10-02). CBAC TGAU Bwyd a Maeth (WJEC GCSE Food and Nutrition Welsh-language edition) (yn Saesneg). Hodder Education. ISBN 978-1-5104-1843-1.
  3. Geiriadur Saesneg Rhydychen, Ail Argraffiad, 1989
  4. 4.0 4.1 The Constance Spry Cookery Book gan Constance Spry and Rosemary Hume
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-27. Cyrchwyd 2010-01-29.
  6. Le Guide Culinaire gan Georges Auguste Escoffier, cyfieithwyd gan H. L. Cracknell and R. J. Kaufmann
  7. Le Répertoire de la Cuisine gan Louis Saulnier, cyfieithwyd gan E. Brunet.
  8. Hering's Dictionary of Classical and Modern Cookery, golygwyd a chyfieithwyd gan Walter Bickel
  9. Recipes published on the labels of Lea and Perrins (Heinz) Worcestershire sauce,
  10. "Rarebit recipe featuring Lea & Perrins. Good Housekeeping magazine, December 1934". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-28. Cyrchwyd 2010-01-29.
  11. Farmer, Fannie M., Boston Cooking-School Cook Book (Boston, 1896, ISBN 0451128923)
  12. "Stouffer's frozen prepared rarebit sauce". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-25. Cyrchwyd 2010-01-29.