Watkin Williams (AS Fflint)

Oddi ar Wicipedia
Watkin Williams
Ganwyd1742 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 1808 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 13eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Plasdy Penbedw

Roedd Watkin Williams (1742 - 25 Mehefin 1808) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn rhwng 1772 a 1774 ac Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint rhwng 1777 a 1806.[1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd Williams yn fab hynaf i Richard Williams Ystâd Penbedw ger Nannerch, Sir y Fflint ac Annabella, merch of Charles Lloyd o'r Drenewydd, ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen

Priododd Elizabeth, merch y Cyrnol James Russell Stapleton o Bodrhyddan ym 1767.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Etifeddodd Williams Ystâd Penbedw ar farwolaeth ei dad ym 1759. Gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Meirionnydd o 1789 ac Arglwydd Raglaw Sir Ddinbych o 1792 i 1793. Bu'n gwnstabl Castell y Fflint o 1799 hyd ei farwolaeth.[2]

Gwasanaethodd fel Uwchgapten ym milisia Swydd Amwythig o 1766 i 1796 ac yn Ffiwsilwyr Sir y Fflint ym 1803.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Etholwyd Williams i'r senedd dros etholaeth Sir Drefaldwyn yn 1772 o dan ddylanwad teulu ei fam. Yn etholiad 1774 cafodd William Mostyn Owen ei enwebu ar gyfer y sedd gan deulu Powis,[3] teulu llawer mwy dylanwadol na theulu Lloyd. Gan hynny collodd Williams y sedd. Ym 1777 bu farw Syr John Glynne, 6ed Barwnig o Gastell Penarlâg, aelod etholaeth Bwrdeistrefi Fflint. Gan fod teulu Williams yn perthyn i deulu Glynne a theulu Williams-Wynn etholwyd Williams fel olynydd iddo fel yr ymgeisydd teuluol.

Parhaodd Williams yn aelod yr etholaeth, yn ddiwrthwynebiad hyd ei ymddeol ym 1806. Ni wnaeth unrhyw farc yn y Tŷ, gan roi cefnogaeth dawel i'r llywodraeth pan oedd yn bresennol. Does dim cofnod o unrhyw bleidlais a fwriwyd ganddo ar faterion gerbron y tŷ. Ei gyfraniad fwyaf fel AS oedd gofyn am nawdd y llywodraeth i aelodau o'i deulu.

Ar drothwy etholiad 1806, fe’i perswadiwyd i ymddeol ‘oherwydd ei wendidau’, o blaid gor-nai ei wraig William Shipley. Collodd Shipley serch hynny i Syr Edward Pryce Lloyd

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Williams ar 30 Tachwedd 1808, yn 66 mlwydd oed claddwyd ei weddillion yn Eglwys Nannerch.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Williams, William Retlaw (1895). The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895, comprising lists of the representatives, chronologically arranged under counties, with biographical and genealogical notices of the members, together with particulars of the various contested elections, double returns and petitions. Cornell University Library. Brecknock : Priv. Print. for the author by E. Davis and Bell. t. 93.
  2. "WILLIAMS, Watkin (1742-1808), of Penbedw, Denb. and Erbistock, Flints. | History of Parliament Online". www.historyofparliamentonline.org. Cyrchwyd 2019-08-28.
  3. "OWEN, William (?1742-95), of Woodhouse, Salop and Bryngwyn, Mont. | History of Parliament Online". www.historyofparliamentonline.org. Cyrchwyd 2019-08-28.
  4. "Discover Nannerch" (PDF). Cyngor Sir Fflint. Cyrchwyd 28 Awst 2019.


Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward Kynaston
Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn
17721774
Olynydd:
William Mostyn Owen
Rhagflaenydd:
John Glynne
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint
17771806
Olynydd:
Syr Edward Pryce Lloyd