Viroconium

Oddi ar Wicipedia
Viroconium
Mathsafle archaeolegol, cyn anheddiad, adeilad Rhufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.6742°N 2.6442°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganEnglish Heritage Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethEnglish Heritage Edit this on Wikidata

Dinas Rufeinig tua 8 km (5 milltir) i'r dwyrain o'r Amwythig oedd Viroconium, neu yn llawn Viroconium Cornoviorum. Saif pentref Caerwrygion (Wroxeter) yn un gornel o'r hen dref.

Adfeilion Viroconium ger Caerwrygion
Olion y baddondy Rhufeinig
Safle dinas Rufeinig Viroconium

Sefydlwyd Viroconium tua 58 OC fel caer i'r lleng Legio XIV Gemina yn ystod eu hymosodiad ar Gymru. Yn ddiweddarach daeth y Legio XX Valeria Victrix yno yn eu lle, hyd nes i'r fyddin adael y safle yn 88. Daeth yn brif dref llwyth y Cornovii, ac erbyn 130 roedd yn gorchuddio mwy na 173 acer (70ha), gyda fforwm a baddonau cyhoeddus. Ar ei hanterth, roedd gan y ddinas boblogaeth o dros 6,000, y bedwaredd dinas ym Mhrydain o ran maint.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato