Victoria, y Dywysoges Reiol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Victoria, Tywysoges Reiol)
Victoria, y Dywysoges Reiol
GanwydVictoria Adelaide Mary Louisa Edit this on Wikidata
21 Tachwedd 1840 Edit this on Wikidata
Palas Buckingham, Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw5 Awst 1901 Edit this on Wikidata
o canser y fron Edit this on Wikidata
Schlosshotel Kronberg Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, drafftsmon Edit this on Wikidata
SwyddTywysoges Reiol Edit this on Wikidata
TadAlbert o Sachsen-Coburg a Gotha Edit this on Wikidata
MamFictoria, brenhines y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
PriodFriedrich III, ymerawdwr yr Almaen Edit this on Wikidata
PlantWilhelm II, Y Dywysoges Charlotte o Prwsia, y Tywysog Heinrich o Brwsia, Prince Sigismund of Prussia, Princess Viktoria of Prussia, Prince Waldemar of Prussia, Sophie o Brwsia, Y Dywysoges Margaret o Prwsia Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Sachsen-Coburg a Gotha Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd yr Eryr Du, Urdd Louise, Arwisgiad Groes Goch Frenhinol Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Victoria Adeilaide Mary Louisa (21 Tachwedd 18405 Awst 1901) yn Dywysoges Frenhinol y Deyrnas Unedig ac, fel gwraig y Kaiser Friedrich III, yn ymerodres yr Almaen a brenhines Prwsia.

Fe'i ganed ym Mhalas Buckingham ym 1840, yn blentyn hynaf i'r frenhines Victoria a'r tywysog Albert. Hi oedd yr etifedd i orsedd y Deyrnas Unedig am y cyfnod byr cyn geni ei brawd Albert Edward (Edward VII yn hwyrach) ym 1841. Cafodd addysg ryddfrydol oddi wrth ei thad.

Ym 1858, a hithau'n 17 oed, priododd y tywysog Friedrich o Brwsia; cawsant wyth o blant. Roedd y tywysog a'r dywysoges yn ffigyrau rhyddfrydol o fewn llys Prwsia ym Merlin; roeddent am i'r deyrnas fod yn frenhiniaeth gyfansoddiadol megis un Prydain, yn hytrach na brenhiniaeth absoliwtaidd. Roeddent o ganlyn yn amhoblogaidd yn y llys ac yn wleidyddol ar ôl i Otto von Bismarck ddod i rym ym 1862.

Esgynnodd Friedrich i orsedd yr Almaen a Phrwsia ym 1888, ond teyrnasodd am 99 diwrnod yn unig cyn iddo farw o ganser y gwddf. Fe'i olynwyd gan Wilhelm II, a oedd yn fwy ceidwadol a militaraidd na'i rieni. Ar ôl marwolaeth Friedrich gelwid Victoria yn Kaiserin Friedrich ('yr ymerodres Friedrich'), ac aeth i fyw yn Kronberg im Taunus lle comisiynodd Castell Friedrichshof (Schlosshotel Kronberg heddiw) i goffáu ei gŵr. Bu farw yn y castell ym 1901.