Vaughan Gething

Oddi ar Wicipedia
Vaughan Gething
AS
Arweinydd Llafur Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
16 Mawrth 2024
ArweinyddKeir Starmer
Rhagflaenwyd ganMark Drakeford
Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Deiliad
Cychwyn y swydd
19 May 2016
Prif WeinidogCarwyn Jones
Mark Drakeford
Rhagflaenwyd ganMark Drakeford
Dirprwy Weinidog dros Iechyd
Mewn swydd
11 Medi 2014 – 19 Mai 2016 [1]
Prif WeinidogCarwyn Jones
GweinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd y swydd
Dilynwyd ganRebecca Evans
Dirprwy Weinidog dros Drechu Tlodi
Mewn swydd
6 Mai 2011 – 11 Medi 2014
Prif WeinidogCarwyn Jones
GweinidogJeffrey Cuthbert
Aelod o Senedd Cymru
dros De Caerdydd a Phenarth
Rhagflaenwyd ganLorraine Barrett
Mwyafrif6,259 (22.8%)
Manylion personol
Ganwyd (1974-03-15) 15 Mawrth 1974 (50 oed)
Lusaka, Zambia[2]
CenedlCymro
Plaid wleidyddolLlafur Cyd-weithredol
Alma materPrifysgol Cymru
GwaithCyfreithiwr, undebwr
GwefanGwefan Swyddogol

Gwleidydd Cymreig yw Vaughan Gething (ganwyd 1974) sy'n arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru ers Mawrth 2024.[3][4]

Mae e wedi gwasanaethu fel Aelod o'r Senedd ers 2011 ac roedd yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru rhwng 2016 a 2024.[5]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Humphrey Vaughan Ap David Gething yn Lusaka, prifddinas Sambia. Roedd ei dad yn 1974 yn filfeddyg o Aberogwr a symudodd yno i weithio lle gyfarfu mam Gething, oedd yn cadw ieir.

Symudodd y teulu i wledydd Prydain ddwy flynedd yn ddiweddarach ac fe gafodd tad Mr Gething gynnig swydd ger Y Fenni. Wedi cyrraedd gyda'i deulu du, mae'n debyg i'r cynnig hwnnw gael ei dynnu'n ôl. Felly symudodd y Dorset ble magwyd Gething.

Daeth yn ôl i Gymru fel myfyriwr i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth a byw yn neuadd Gymraeg Pantycelyn.

Cafodd ei ethol yn llywydd ar Undeb y Myfyrwyr yn Aberystwyth, ac yna ar Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru.[6]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cafodd ei ethol i Gyngor Caerdydd fel cynrychiolydd Trebiwt yn 2004, ar ôl trechu Betty Campbell - prifathrawes ddu gyntaf Cymru - o ddwy bleidlais.

Ym Mis Mehefin 2013, penodwyd Vaughan Gething yn Dirprwy Weinidog Threchu Tlodi. Ym Mis Medi 2014, penodwyd Vaughan yn Dirprwy Weinidog Iechyd. Ym mis Mai 2016, penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Penodwyd Vaughan yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Vaughan yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.[5]

Yn dilyn cyhoeddiad Mark Drakeford ei fod am sefyll lawr fel Prif Weinidog ac arweinydd Llafur, sefodd Gething fel ymgeisydd ar gyfer ar arweinyddiaeth. Ei unig wrthwynebydd oedd Jeremy Miles.

Yn ystod yr ymgyrch cafodd ei feirniadu am dderbyn £200,000 o roddion gan berchennog cwmni gwastraff dadleuol yng Nghaerdydd.[3] Roedd hefyd cwestiynau ynglyn a'i enwebiad gan undeb Unite, am fod Jeremy Miles ddim yn gymwys o dan reolau'r undeb. Nid oedd Miles yn gymwys o dan reol newydd nad oedd ym ymwybodol ohono a ni wnaeth Unite ei hysbysu ohono yn ystod y hustingau. Felly dim ond Gething a gafodd ei gymeradwyo gan Unite.[7]

Ar 16 Mawrth 2024 cyhoeddwyd canlyniad yr etholiad gyda Gething yn ennill o 51.7% i 48.3%. O'i ethol, Gething fydd yr arweinydd du cyntaf o unrhyw wlad yn Ewrop.[8]

Gething a'r COVID-19[golygu | golygu cod]

Gething oedd Gweinidog Iechyd Cymru adeg COVID-19 ("Y Gofid Mawr" fel y'i gelwid). Bu hyn yn gyfnod di-gynsail o ran delio ag haint a'r straen ar wasanaethau iechyd a chyhoeddus i unrhyw wleidydd o'r cyfnod. Beirniadwyd Gething yn hallt am beidio galw ar ganslo gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a'r Alban oedd i'w chwarea yn Stadiwm y Principality ar 14 Mawrth 2020.[9][10]

Daeth Gething o dan sawl beirnidaeth gan gynnwys gan y gwyddonydd Gwobr Nobel, yr Athro Syr Martin Evans. Ar 21 Ebrill 2020, cyhuddodd Evans llywodraethau Cymru a'r DU o "esgeuluso'u dyletswyddau" am beidio gwneud gwell defnydd o adnoddau domestig i ateb y galw am brofion Covid-19 ac offer diogelwch personol (PPE).[11]

Bu iddo ddenu sylw rhyngwladol wedi iddo gael ei ddal yn rhegi pan anghofiodd ddiffodd ei feicroffôn mewn cyfarfod dros y we o Gynulliad Cymru ar 22 Ebrill 2020.[12][13] Bu galw arno i ymddiswyddo gan Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru[14].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Lib Dem Williams named in new cabinet". 19 Mai 2016. Cyrchwyd 18 Hydref 2019 – drwy www.bbc.co.uk.
  2. Davies, Daniel (9 November 2018). "Welsh Labour's mystery runners?". BBC. BBC News. Cyrchwyd 17 Awst 2019.
  3. 3.0 3.1 "Vaughan Gething wedi ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru". BBC Cymru Fyw. 2024-03-16. Cyrchwyd 2024-03-16.
  4. "Ethol Vaughan Gething yn ffurfiol yn brif weinidog". BBC Cymru Fyw. 2024-03-20. Cyrchwyd 2024-03-20.
  5. 5.0 5.1 https://llyw.cymru/vaughan-gething-as
  6. "Prif Weinidog Cymru: Pwy yw Vaughan Gething?". BBC Cymru Fyw. 2024-02-15. Cyrchwyd 2024-03-20.
  7. "'Anhapus iawn': Jeremy Miles yn cwestiynau'r modd y penderfynodd undeb enwebu Vaughan Gething". newyddion.s4c.cymru. 2024-03-16. Cyrchwyd 2024-03-16.
  8. Morris, Steven (2024-03-16). "Vaughan Gething to become Welsh first minister after Labour leadership win". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-03-16.
  9. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-51853674
  10. https://www.walesonline.co.uk/sport/rugby/rugby-news/welsh-health-minister-who-said-17926936
  11. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52370745
  12. https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/567004-what-sylwadau-vaughan-gething-aelod-llafur-cael
  13. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52387308
  14. https://twitter.com/Adamprice/status/1252985455546679296