Uwch Gynghrair Lwcsembwrg

Oddi ar Wicipedia
Uwch Gynghrair Lwcsembwrg
GwladLwcsembwrg
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd1910
Nifer o dimau14
Lefel ar byramid1
Disgyn iAdran Anrhydedd (ail adran)
CwpanauCwpan Lwcsewmbwrg
Cwpanau rhyngwladolCynghrair y Pencampwyr UEFA
Cynghrair Europa UEFA
Pencampwyr PresennolF91 Dudelange (15fed teit)
(2018–19)
Mwyaf o bencampwriaethauJeunesse Esch (28 teitl)
2019–20 Luxembourg National Division
Gêm Racing FC Union Luxembourg v F91 Dudelange, 2016
Gêm Racing FC Union Luxembourg v F91 Dudelange, 2016

Yr Adran Genedlaethol (Lwcsembwrgeg: Nationaldivisioun; Ffrangeg: Division Nationale; Almaeneg: Nationaldivision) yw'r gynghrair bêl-droed dynion uchaf yn Lwcsembwrg. Yr enw swyddogol gyfredol yn 2019 oedd BGL Ligue wedi'r prif noddwyr, Banque Générale du Luxembourg.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r Adran wedi derbyn sawl enw ers ei sefydlu dros ganrif yn ôl.

Yn ystod cyfnod cyntaf y gynghrair rhwng 1909 a 1912, gelwid hi yn Klasse A neu Lëtzebuerger Championnat (Lwcsembwrgeg) a Championnat Luxembourgeois (Ffrangeg). Yn 1913, fe'i hailenwyd yn Erste Division ("Adran Gyntaf"), Éischt Divisioun (Lwcsembwrgeg) a Première Division (Ffrangeg). Rhwng 1932 i 1957 fe'i galwyd yn Eherendivision ("Yr Adran Anrhydedd") Éirendivisioun (Lw.), Division d'Honneur (Ffr.) nes iddi wedyn gael ei hailenwi Nationaldivision ("Adran Genedlaethol"). Ers tymor 2007/08 mae hi'n arddel teitle y prif noddwr BGL, ("Banque Générale du Luxembourg"). Bydd y cyhoedd a'r cyfryngau hefyd yn defnyddio'r termau 'Oberste Division ("Prif" neu "Uwch" Adran) ac Nationaldivion ar lafar.

Yn ystod meddiannaeth yr Almaen o Lwcsembwrg yn yr Ail Ryfel Byd o 1940 i 1944, diddymwyd y strwythur. Ymgorfforwyd cymdeithasau Lwcsembwrg gan y Fachamt Fußball i mewn i'r Gauliga Moselland Gruppe West a'i is-gynghreiriau oedd yn cynnwys timau o'r Almaen ei hun.

Strwythur yr Uwch Gynghrair[golygu | golygu cod]

O 1946 chwaraeodd 12 tîm yn y gynghrair uchaf. Ar gyfer tymor 1988/89, gostyngwyd nifer y cyfranogwyr i ddeg a 1994 eto cynyddodd i ddeuddeg. Ers tymor 2006/07, mae BGL Ligue yn chwarae gyda 14 o dimau. Yn y gynghrair sylfaenol, mae'r ddyrchafiad er anrhydedd, hefyd yn chwarae 14 o dimau.

Mae'r tymor yn cynnwys 26 gêm, wedi'u rhannu'n ddau cymal. Bydd pob tîm sy'n cymryd rhan yn chwarae dwy gêm (adref ac oddi cartref) yn erbyn pob tîm arall.

Mae'n rhaid i'r timau, sy'n gorwedd yn y 13eg a'r 14eg safle, ddisgyn i'r adran islaw. Mae'n rhaid i'r tîm o'r ddeuddegfed safle chwarae gêm yn erbyn y drydedd safle ar ddeg er mwyn penderfynu pa un sy'n disgyn. Mae'r enillydd yn codi neu'n aros yn yr uwch gynghrair.

Yn y gorffennol, cynhaliwyd rownd ail gyfle i bennu'r pencampwr a'r disgyniad ar ddiwedd y tymor rheolaidd. Fodd bynnag, cafodd y dull hwn ei ollwng o dymor 2006/07.

Timau[golygu | golygu cod]

Jeunesse Esch yw'r clwb mwyaf llwyddiannus yn yr adran

Tabl Pencampwyr[golygu | golygu cod]

Rhestr o'r pencampwyr:

Clwb Teitl Ail Blynyddoedd ennill Adran
Jeunesse Esch 28 13 1920–21, 1936–37, 1950–51, 1953_54, 1957–58, 1958–59, 1959–60, 1962–63, 1966–67, 1967–68, 1969–70, 1972–73, 1973–74, 1974–75, 1975–76, 1976–77, 1979–80, 1982–83, 1984–85, 1986–87, 1987–88, 1994–95, 1995–96, 1996–97, 1997–98, 1998–99, 2003–04, 2009–10
F91 Dudelange 15 5 1938–39, 1939–40, 1944–45, 1945–46, 1946–47, 1947–48, 1949–50, 1954–55, 1956–57, 1964–65
CA Spora Luxembourg 11 10 1924–25, 1927–28, 1928–29, 1933–34, 1934–35, 1935–36, 1937–38, 1948–49, 1955–56, 1960–61, 1988–89
Stade Dudelange 10 6 1938–39, 1939–40, 1944–45, 1945–46, 1946–47, 1947–48, 1949–50, 1954–55, 1956–57, 1964–65
CS Fola Esch 7 11 1917–18, 1919–20, 1921–22, 1923–24, 1929–30, 2012–13, 2014–15
A Red Boys Differdange 6 10 1922–23, 1925–26, 1930–31, 1931–32, 1932–33, 1978–79
Union Luxembourg 6 9 1926–27, 1961–62, 1970–71, 1989–90, 1990–91, 1991–92
FC Avenir Beggen 6 5 1968–69, 1981–82, 1983–84, 1985–86, 1992–93, 1993–94
US Hollerich Bonnevoie 5 2 1911–12, 1913–14, 1914–15, 1915–16, 1916–17
FC Progrès Niederkorn 3 6 1952–53, 1977–78, 1980–81
FC Aris Bonnevoie 3 1 1963–64, 1965–66, 1971–72
Sporting Club Luxembourg 2 3 1910–11, 1918–19
CS Grevenmacher 1 7 2002–03
National Schifflange 1 2 1951–52
Racing Club Luxembourg 1 - 1909–10
US Dudelange - 4
US Rumelange - 3
FC Differdange 03 - 3
FC Etzella Ettelbruck - 2
Alliance Dudelange - 1
Sporting Club Differdange - 1
Racing FC Union Luxembourg - 1
  • Noder bod 'Racing Union' a 'CA Spora Luxembourg' bellach yn rhan o 'Racing FC Union Luxembourg'.
  • Noder bod Stade Dudelange yn rhan o F91 Dudelange
  • Noder bod FA Red Boys Differdange yn rhan o Dudelange 03
  • Noder i US Hollerich Bonnevoie ymunod ag Union Luxembourg a bellach Racing FC Union Luxembourg

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.