Undeb ariannol

Oddi ar Wicipedia

Undeb o wledydd sy'n rhannu arian cyfred yw undeb ariannol. Gall hefyd fod yn undeb o wledydd sy'n cadw ariannau eu hunain ond sy'n cytuno i gadw cyfradd gyfnewid gyson rhyngddynt. Mae ar angen undeb ariannol naill ai banc canolog sengl neu fodd o gydlynu polisi ariannol yn effeithlon gan fanciau canolog y gwledydd sy'n ffurfio'r undeb.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Black, Nigar Hashimzade a Gareth Myles. A Dictionary of Economics (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 295.
Eginyn erthygl sydd uchod am arian. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.