Undeb Rygbi Cymru

Oddi ar Wicipedia
Undeb Rygbi Cymru
Math
corff llywodraethol rygbi'r undeb
Aelod o'r canlynol
World Rugby
Sefydlwyd12 Mawrth 1881
Aelod o'r canlynolWorld Rugby, Rugby Europe
PencadlysCaerdydd
Lle ffurfioCastell-nedd
Gwefanhttps://www.wru.wales/, https://www.wru.wales/cy/ Edit this on Wikidata

Undeb Rygbi Cymru yw'r corff sy'n rheoli rygbi'r undeb yng Nghymru. Sefydlwyd yn y "Castle Hotel" yng Nghastell Nedd gan 16 tim rygbi ar y 12fed o Fawrth, 1881.

Yr Undeb sy'n penodi prif hyfforddwr tîm rygbi cenedlaethol Cymru.

Beirniadaeth[golygu | golygu cod]

Ffrae enw'r Cwpan[golygu | golygu cod]

Yn Awst 2006 cyhoeddwyd y byddai'r Tywysog William yn Ddirpwy Noddwr Brenhinol Undeb Rygbi Cymru o Chwefror 2007. Yn ogystal, cyhoeddodd yr URC eu bod am weld ci enillwyr y gemau prawf rhwng Cymru a De Affrica yn cael ei galw'n "Cwpan y Tywysog William". Mae hynny wedi ennyn ymateb beirniadol iawn yng Nghymru am fod nifer o bobl yn gweld William fel cefnogwr Lloegr. Eisoes mae nifer o Gymry yn galw ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol i enwi'r tlws newydd yn "Gwpan y Tywysog William" ac yn galw am ei newid i "Cwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth deilwng i'r diweddar Ray Gravell. Dadleuant fod enwi'r cwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn cwbl anaddas. Lawnsiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw arfaethedig i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo

Honiadau o ddiwylliant gwenwynig[golygu | golygu cod]

Ar 29 Ionawr 2023, ymddiswyddodd y prif weithredwr Steve Phillips yn dilyn ymchwiliad gan raglen BBC Wales Investigates ddatgelu cyfres o honiadau o ragfarn rhyw, hiliaeth a chasineb at ferched o fewn y sefydliad.[1]

Yn Awst 2023, penodwyd Abi Tierney yn brif weithredwr, y fenyw cyntaf i ddal y swydd honno.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn ymddiswyddo". BBC Cymru Fyw. 2023-01-29. Cyrchwyd 2023-08-17.
  2. "URC yn penodi'r prif weithredwr benywaidd cyntaf". BBC Cymru Fyw. 2023-08-16. Cyrchwyd 2023-08-17.
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.