Ucheldiroedd Golan

Oddi ar Wicipedia
Ucheldiroedd Golan
Mathtiriogaeth ddadleuol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGolan Regional Council Edit this on Wikidata
GwladIsrael, Syria Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,800 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,226 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33°N 35.75°E Edit this on Wikidata
Map
Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Golan.
Map o'r Golan

Rhan o'r Tiroedd Palesteinaidd yw'r ucheldir mynyddig hwn, sef y Lefant - sy'n gorwedd rhwng Libanus, Syria, Israel a Gwlad Iorddonen. Y gair Hebraeg yw רמת הגולן‎ (sef Ramat HaGolan), ac yn Arabeg fe ddywedir: هضبة الجولان‎ Harbat al-Golan). Mae eu meddiant gan Israel yw asgwrn y gynnen rhwng y ddwy wlad (Palesteina ac Israel) ers degawdau; yn wir gellir dweud mai dyma asgwrn y gynnen rhwng yr arabiaid a'r moslemiaid ar y naill law a'r Unol Daleithiau ac Ewrop ar y llall.

Yn gyffredinol mae'r enw yn cyfeirio at y rhanbarth ddaearyddol a hanesyddol honno, ond fe'i defnyddir fynychaf i gyfeirio at y rhan honno sy'n cael ei feddiannu gan Israel heddiw.

Cipiodd Israel y Golan oddi ar Syria yn y Rhyfel Chwech Diwrnod yn 1967 ac eto yn 1973 yn Rhyfel Yom Kippur. Yn 1981 hawliodd Israel y tiriogaeth drwy Ddeddf Ucheldiroedd Golan. Mae Syria yn hawlio'r tiriogaeth hwn iddi ei hun. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn galw ar Israel i ddychwelyd y tir yn ôl i Syria.

Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato