Tŷ'r Forwyn Fair

Oddi ar Wicipedia
Tŷ'r Forwyn Fair
Enghraifft o'r canlynolmynachlog, safle archaeolegol, cysegrfa i'r Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Rhan oEphesus Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthSelçuk Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.hzmeryemanaevi.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tŷ'r Forwyn Fair heddiw

Yn ôl traddodiad Cristnogol, treuliodd y Forwyn Fair, mam Iesu Grist, ei dyddiau olaf yn Effesus yn Asia Leiaf (Twrci heddiw) yng nghwmni Sant Ioan.

Dywedir iddi farw mewn tŷ my mhentref bach Panaya Kapuhi, yn y bryniau ger hen ddinas Rufeinig Effesus, ar y ffordd rhwng y safle hwnnw a Seljuk. Cyfeirir at hynny mor gynnar â'r flwyddyn OC 431. Tybir fod y tŷ presennol, sydd wedi ei adnewyddu, yn sefyll ar safle eglwys gynnar yn perthyn i'r 4g, ond nid oes sicrwydd o hynny.

Dywedir hefyd iddi gael ei chladdu gerllaw y tŷ, ond nid oes olion o'i bedd i'w gweld heddiw.

Mae'r tŷ yn gyrchfan pererindod poblogaidd gan Gristnogion a Mwslemiaid fel ei gilydd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • W. Emlyn Jones, Y Saith Ganhwyllbren Aur (Llandybïe, 1969)