Túath

Oddi ar Wicipedia

Yng nghymdeithas gynnar a chanoloesol Iwerddon, llwyth dan reolaeth brenin oedd y túath. Mae túath (IPA: /tuaθ/, lluosog: túaithe) yn air Gwyddeleg sy'n gytras â'r gair 'tylwyth' yn Gymraeg a'r gair Celteg *teutā (gwraidd enw'r duw Galaidd Teutates). 'Llwyth', sef grŵp o bobl sy'n perthyn i'w gilydd o ran gwaed a charennydd, yw'r cyfieithiad arferol ond gall olygu 'mân-deyrnas' hefyd.

Yn ôl tystiolaeth yr achau Gwyddelig traddodiadol, amcangyfrifodd yr ysgolhaig F. J. Byrne fod tua 150 túath yn Iwerddon ar unrhyw un adeg rhwng y 5g hyd at y 12fed a dyfodiad y Normaniaid. Mae ymchwil mwy diweddar yn awgrymu fod y ffigwr yn agosach i 80. A derbyn y bu gan yr ynys boblogaeth o tua hanner miliwn, mae hynny'n awgrymu fod tua 3,000 o bobl, yn ddynion, merched a phlant ar gyfartaledd yn aelodau o unrhyw un túath.

Rheolid y túath gan frenin. Weithiau byddai brenin y túath yn arglwydd ar frenhinoedd túaithe eraill hefyd. Ceir enghreifftiau o ymgynghreirio rhwng un túath a'i gymydog yn ogystal.

Yn ôl y testunau cyfraith Wyddelig cynnar, yr oedd rhaid i'r túath gael brenin, ysgolhaig eglwysig (ecnae), clerigwr a bardd i gyfrif fel túath go iawn.

Roedd brenin y túath yn arglwydd ar ei ddeiliaid o bob gradd, rhydd a chaeth. Mewn argyfwng gallai alw ar bob gŵr rhydd i ymuno mewn mintai neu fyddin (slógad) i amddiffyn y deyrnas neu ymosod ar túath arall. Roedd yn cynullo ei bobl mewn óenach (cynulliad) o bryd i'w gilydd i drafod a datrys materion cymeithasol a gwleidyddol. Os oedd yn "uwch frenin" byddai aelodau o dylwythau eraill yn dod yno hefyd. Mae'r Óenach Tailten ('Ffair Tailten'), a gynhelid yn Tara ar ŵyl Lugnasad (dechrau Awst) yn enghraifft enwog o'r cynulliadau llwythol hyn. Mae'n debygol eu bod yn ganolfannau masnach dros dro hefyd.

Roedd y túath yn cael ei drefnu ar batrwm hierarchaidd, gyda phob gradd yn y gymdeithas yn perthyn i'w lle yn ôl y gyfraith. Ond roedd yn system hyblyg hefyd a gallai pobl symud i fyny (neu i lawr) yn y drefn gymdeithasol. Roedd lle arbennig i grefftwyr, ysgolheigion, clerigwyr gwŷr cyfraith a beirdd. Roedd rhywun nad oedd yn aelod o'r túath yn "estronwr" (deorad) gyda breintiau cyfyngedig. Weithiau byddai alltud o deyrnas neu wlad arall yn aros yn nheyrnas y túath; cú glas ('ci llwyd') oedd yr enw cyfreithiol am yr alltudion hyn.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Fergus Kelly, A Guide to Early Irish Law (Dulyn, 1988; argraffiad newydd 2003), tt. 3-7.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]