Tywodfaen

Oddi ar Wicipedia
Clogwyn tywodfaen Navajo, UDA

Craig waddod yw Tywodfaen. Cwarts a ffelspar sydd ynddo'n bennaf. Y rheswm am hyn yw bod cwarts yn fwyn cryf iawn sy'n aros ar ôl hyd yn oed pan mae mwynau eraill yn diflannu oherwydd erydiad. Gall tywodfaen fod yn llwyd, yn felyn, yn goch neu'n wyn, yn union fel tywod ei hunan. Mae tywodfaen yn graig feddal, felly mae'n cael ei defnyddio'n aml mewn adeiladu neu gerflunwaith.

Yn wahanol i greigiau fel sialc neu lo, nid yw tywodfaen wedi'i chreu o greaduriaid neu blanhigion hynafol. Yn hytrach, mae creigiau yn cael eu erydu mewn i dywod, ac yna mae'r crisialau yn y tywod yn casglu at ei gilydd ac yn troi'n graig o dan pwysau enfawr. Calsit, clai neu silica sy'n cadw'r crisialau mewn tywodfaen at ei gilydd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am tywodfaen
yn Wiciadur.