Tymheredd

Oddi ar Wicipedia
Mae dŵr yn rhewi pan fo'r tymheredd yn 0 °C. Mae'r thermomedr hwn yn dangos fod tymheredd y rhew y tu allan i'r ffenestr yn -17 °C.

Tymheredd ydy'r dull o fesur pa mor oer neu ba mor boeth ydy'r aer neu unrhyw ddeunydd arall. Mae hyn yn dibynnu ar egni cinetig y gronynnau sydd oddi fewn i'r deunydd. Gallem deimlo - a mesur - y poethder hwn gyda'n llaw drwy'r nerfau oddi tan y croen; y poetha rydym yn ei deimlo, yr uchaf ydy ei dymheredd.

Mae dwy ffordd o ddiffinio tymheredd yng ngeiriadur y gwyddonydd:

  • y disgrifiad thermodeinamig - a sefydlwyd yn gyntaf gan Kelvin
  • yr eglurhad wedi'i sylfaenu ar ffiseg ystadegol.
Chwiliwch am tymheredd
yn Wiciadur.