Triton (lloeren)

Oddi ar Wicipedia
Triton
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Neifion, irregular moon Edit this on Wikidata
Màs21.39 ±0.03 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod10 Hydref 1846 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAtmosphere of Triton Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbitalEdit this on Wikidata
Radiws1,353.4 ±0.9 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Triton ydy'r seithfed a'r fwyaf o loerennau Neifion.

  • Cylchdro: 354,760 km o Neifion
  • Tryfesur: 2700 km
  • Cynhwysedd: 2.14e22 kg

Ym mytholeg y Groegiaid y mae Triton yn dduw môr ac yn fab i Poseidon (Neifion).

Cafodd y lloeren Triton ei darganfod gan Lassel ym 1846 dim ond ychydig wythnosau ar ôl darganfyddiad Neifion. Cafodd Triton ymweliad gan Voyager 2 ar y 25ain o Awst 1989.

Mae cylchdro Triton yn wrthdroadwy. Triton yw'r unig loeren fawr sy'n cylchdroi 'wysg ei gefn', dim ond lloerennau bach Iau (Ananke, Carme, Pasiphae a Sinope) a Phoebe (lloeren fach Sadwrn) sydd hefyd yn cylchio 'wysg ei gefn', pob un ohonynt yn llai na 1/10 tryfesur Triton. Am hynny rhaid i Driton wedi cael ei dal gan Neifion ar ôl dod o rywle arall, efallai o Wregys Kuiper. O achos natur anarferol cylchdro Triton, mae rhyngweithiadau rhwng Neifion a Thriton yn dwyn egni ymaith oddi wrth Driton gan achosi iddi ostwng ei chylchdro. Rhywdro yn y dyfodol pell bydd Triton yn cael ei chwalu ac unai'n ffurfio modrwy neu yn syrthio i mewn i Neifion.

Oherwydd ei gogwyddiad mae pegynau a chyhydedd Triton yn wynebu'r Haul bob yn ail. Mae ganddi awyrgylch tenau o nitrogen gyda methan. Mae ganddi nudd denau sy'n ymestyn 5–10 km i fyny.

Mae tymheredd arwyneb Triton yn 34.5 K (-235 C), mor oer â Plwton. Mae hynny oherwydd ei halbedo uchel (.7 - .8) sy'n golygu fod ychydig iawn o olau haul yn cael ei sugno. Yn y fath oerni mae methan, nitrogen a charbon deuocsid yn cael eu rhewi'n soled.

Cap iâ Triton[golygu | golygu cod]

Mae arwyneb Triton yn ifanc. Mae bron â chyfan yr hemisffer deheuol wedi ei orchuddio dan gap iâ o nitrogen a methan. Mae cynhwysedd Triton (2.0) yn fwy na lloerennau rhewllyd Sadwrn (e.e. Rhea). Mae Triton yn debyg o fod yn 25% iâ dŵr gyda'r rhelyw yn ddeunydd creigiog. Y nodwedd fwyaf ddiddorol (ac annisgwyl) ar Driton ydy ei llosgfynyddoedd iâ. Mae'r deunydd sy'n dod allan ohonynt yn debyg o fod yn nitrogen hylifol, lluwch, neu gyfansoddion methan. Mae actifedd llosgfynyddoedd Triton wedi ei achosi trwy dwymo tymhorol gan yr Haul.