Treth gwerth tir

Oddi ar Wicipedia

Treth ar werth tir yw treth gwerth tir y dadleuir ei fod yn dreth tecach a symlach na threth incwm. Sylwer taw treth ar werth tir heb ei ddatblygu yw hyn ac nid gwerth tŷ neu swyddfa neu beth bynnag sy'n sefyll ar y tir.

Mae'r dadleuon dros dreth gwerth tir yn cynnwys y canlynol:

  • symlrwydd (gan ei bod yn haws dod o hyd i ddarn o dir na dilyn cymhlethdod bywyd pob person)
  • ei fod yn hybu cyfartaledd a thegwch
  • ei fod yn lleihau'r tebygolrwydd o gael dirwasgiadau
  • ei fod yn cadw cost tir yn rhesymol
  • ei fod yn annog perchnogion tir i wneud y defnydd gorau o'u tir neu werthu
  • ei fod yn atal landlordiaid rhag gwneud cyfoeth mawr o berchnogaeth tir yn unig
  • ei fod yn annog pobl a rhoi rhyddid iddynt i weithio
  • ei fod yn galluogi pobl ifanc i ddechrau ffermio gan allu byw ar eu hincwm yn hytrach na dibynnu ar dwf yng ngwerth y tir
  • taw'r gymuned sy'n elwa o gynnydd mewn gwerth tir yn hytrach na'r banciau

Mae cefnogwyr treth gwerth tir yn cynnwys yr economegydd Henry George, Winston Churchill a Lloyd George. Ysgrifennodd yr ymgynghorydd ariannol, Gweirydd ap Gweirydd, am ragoriaethau treth gwerth tir i Gymru ym Marn yn 2010.

Gwelir elfennau o dreth gwerth tir yng gwledydd Llychlyn, Singapôr a rhannau o Awstralia a Canada.

Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.