Tresmasiad

Oddi ar Wicipedia
Arwydd dim tresmasu ger gwarchodfa natur yn Detmold, yr Almaen.

Unrhyw gamweithrediad neu drosedd sydd yn tarfu yn gorfforol ar berson neu eiddo rhywun arall yw tresmasiad. Defnyddir y gair gan amlaf, yn enwedig yn y cyfnod modern, i gyfeirio at gerdded ar eiddo preifat heb hawl na chaniatâd.[1][2]

Yng nghyfraith Lloegr, datblygodd y drosedd yn y gyfraith gyffredin yn y 13g er mwyn gwneud iawn am niwed i eiddo. Y ddwy ffurf gynnar ar dresmasiad oedd quare clausum fregit (torri i mewn i adeilad neu dir, hynny yw eiddo real) a de bonis asportatis (cymryd eiddo personol heb ganiatâd). Câi'r perchennog yr hawl i erlyn y tresmaswr am iawndal. Yn wreiddiol roedd defnydd trais neu rym yn rhan o'r drosedd, ond yn fuan penderfynodd y llysoedd bod y weithred o dorri i mewn i eiddo a chymryd nwyddau yn dreisgar ynddi ei hun. Yn ddiweddarach, gweithredwyd y drosedd ar niweidiau treisgar yn erbyn y person, megis ymosodiad, curfa, a charchariad anghyfreithlon.

Daeth tresmasiad yn sail i gyfraith gamwedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  tresmasiad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 2 Medi 2017.
  2. (Saesneg) Trespass. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Medi 2017.