Trento

Oddi ar Wicipedia
Trento
Mathcymuned Edit this on Wikidata
PrifddinasTrento Edit this on Wikidata
Poblogaeth118,046 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAlessandro Andreatta Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2, CET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Kempten, Sławno, Charlottenburg-Wilmersdorf, Huatusco, Znojmo, Prague 1, Resistencia, Donostia, Chieti, Prag, Vladimir Edit this on Wikidata
NawddsantVigilius of Trent Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Trento Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd157.88 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr190 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAldeno, Cavedine, Garniga Terme, Giovo, Lavis, Pergine Valsugana, Villa Lagarina, Besenello, Civezzano, Cimone, Vallelaghi, Madruzzo, Albiano, Altopiano della Vigolana Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.1°N 11.1°E Edit this on Wikidata
Cod post38121, 38122, 38123 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Trento Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAlessandro Andreatta Edit this on Wikidata
Map

Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd yr Eidal yw Trento (Lladin: Tridentum; Saesneg: Trent), sy'n brifddinas talaith Trento a rhanbarth Trentino-Alto Adige hefyd. Saif ar Afon Adige. Dyma le cynhaliwyd Cyngor Trent yn y 16g. Roedd yn rhan o Awstria-Hwngari cyn iddo gael ei atodi i'r Eidal ym 1919.

Roedd y boblogaeth yng nghyfrifiad 2011 yn 114,198.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Pentref Celtaidd oedd Trento pan gafodd ei orchfygu gan Rufain yn y 1g CC. Creodd Iŵl Cesar fwrdeistref Rufeinig yma pan rowyd dinasyddiaeth i'r ardal o Gallia Cisalpina i'r gogledd o Afon Po. Enwyd y yr anheddiad yn Tridentum fel teyrnged i Neifion, duw y môr a ddaliodd dryfer (Lladin: tridens, h.y. "tri dannedd", ar ôl y tri bryn sy'n amgylchynu'r ddinas). Daeth Tridentum yn arhosfan bwysig ar Via Raetia, y ffordd Rufeinig a arweiniodd o Verona i Innsbruck.

Ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin gorchfygwyd y ddinas gan Ostrogothiaid, Bysantiaid, Lombardiaid a Ffranciaid cyn iddi ddod yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Ym 1027 rhoddodd yr Ymerawdwr Conrad II lywodraeth y ddinas yng ngofal yr esgob-dywysogion Trent, a byddai'n rheolwyr tymhorol ac ysbrydol. Tua 1200 daeth yn ganolfan bwysig o fwyngloddio, yn enwedig am arian. Yn y 14g daeth ardal Trento o dan reolaeth dugiaid Awstria, sef y teulu Habsburg a fyddai'n gorchufu'r rhanbarth am 600 mlynedd.

Roedd y tywysog-esgobion yn llywodraethu Trento tan oes Napoleon. O dan ad-drefnu'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd ym 1802, collodd yr esgob ei awdurdod seciwlar ac atododd yr ardal i diriogaethau Habsburg. Rhoddwyd Trento i Bafaria gan Gytundeb Pressburg ym 1805; wedyn, ym 1809, fe'i rhoddwyd gan Gytundeb Schönbrunn i Deyrnas yr Eidal, y wladwriaeth byrhoedlog a sefydlwyd gan Napoleon. Yn dilyn cwymp Napoleon ym 1814, dychwelwyd Trento i Awstria (Awstria-Hwngari ar ôl 1867). Yn ddiweddarach yn y 19g, daeth Trento, dinas â mwyafrif ethnig Eidalaidd o fewn ymerodraeth Awstria, yn symbol pwerus i'r mudiad Eidalaidd irredentismo. Fe'i hatodwyd, ynghyd â'i thalaith Eidaleg, i'r Eidal ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Cadeirlan San Vigilio
  • Eglwys Santa Maria Maggiore
  • Palazzo delle Albere, preswylfa gaerog yr esgob-dywysogion
  • Castell Buonconsiglio

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 16 Ionawr 2021


Oriel[golygu | golygu cod]