Tremeirchion

Oddi ar Wicipedia
Tremeirchion
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth703 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,652.23 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2455°N 3.3774°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000177 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ081729 Edit this on Wikidata
Cod postLL17 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auJames Davies (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Tremeirchion, Cwm a'r Waun, Sir Ddinbych, Cymru, yw Tremeirchion ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir wrth odrau gorllewinol Bryniau Clwyd tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych a 4 milltir i'r de-ddwyrain o Lanelwy, ar lôn heb gategori rhwng Rhuallt yn y gogledd a Bodfari yn y de. Mae'n tua milltir a hanner o Afon Clwyd gyda golygfeydd braf dros rannau isaf Dyffryn Clwyd a bryniau Rhos.

Coleg Beuno Sant, Tremeirchion
Lleoliad yr eglwys
Lleoliad Tremeirchion
Tremeirchion: canol y pentref

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Mae'r eglwys, Corpus Christi heddiw ond cyn hynny'n gysegredig i Sant Beuno yn ôl pob tebyg, yn hynafol ond wedi cael ei hatgyweirio sawl gwaith. Cedwir ynddi croes Geltaidd. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o'r 14g ac mae rhai o'r ffenestri lliw yn cynnwys gwydr o'r un cyfnod. Erys darnau o'r Ysgrîn ganolesol yno; mae'r rhan arall yng Ngholeg Beuno (isod). Claddwyd Hester Lynch Piozzi ('Mrs Thrale'), cyfeilles Dr Samuel Johnson, yn yr eglwys yn 1821. Roedd hi'n byw ym Mrynbella, yn y pentref, cartref a gerddi gwych a godwyd ar ôl dymchwel hen blasdy Bachegraig, aelwyd Syr Rhisiart Clwch. Ymddengys nad oes sail i'r traddodiad fod y bardd ac ysgolhaig Dafydd Ddu o Hiraddug (bu farw tua 1370) wedi ei gladdu yn yr eglwys.

I'r gogledd o'r pentref ceir Coleg Beuno Sant, a sefydlwyd gan y Jeswitiaid yn 1848. Yng ngardd y coleg saif croes gerfiedig sy'n dyddio o'r 14g o leiaf ac a symudwyd yno o'r eglwys. Astudiodd Gerard Manley Hopkins, bardd Jeswitiaid o Loegr, yn y coleg rhwng 1874 a 1877.

Ger y pentref ceir Ogofâu Cae Gwyn lle darganfuwyd offer cerrig Paleolithig, rhai ohonyn nhw'n dyddio o 36,000 o flynyddoedd CC. Gerllaw mae Ffynnon St Beuno (dim ar y map ordnans: grid SJ084724), sy'n byrlymu o garreg â siâp pen iddi. Hefyd yn yr ardal ceir crugiau crynion sy'n dyddio o Oes yr Efydd.

Mae Clawdd Offa a'i lwybr yn pasio'n agos i'r pentref.

Pobl o Dremeirchion[golygu | golygu cod]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tremeirchion (pob oed) (703)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tremeirchion) (221)
  
32%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tremeirchion) (419)
  
59.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Tremeirchion) (78)
  
28%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.