Tregolwyn

Oddi ar Wicipedia
Tregolwyn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4685°N 3.526°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000651 Edit this on Wikidata
Cod postCF71 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Tregolwyn (Saesneg: Colwinston). Gorwedd i'r dwyrain o Ben-y-bont ar Ogwr, tua hanner ffordd rhwng y dref honno a'r Bont-faen.

Mae Eglwys Sant Fihangel a'r Holl Angylion yn y pentref yn adeilad cofrestedig Graddfa 1 sy'n dyddio'n ôl i'r Oesoedd Canol. Gerllaw ceir ysgol gynradd Dewi Sant a Neuadd y Pentref. Enw tafarn y pentref yw "The Sycamore Tree".[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[3]

Mae gan Dregolwyn ei gyngor cymuned ei hun sy'n ethol un ar ddeg o aelodau. Roedd gan y pentref boblogaeth o tua 400 yn 2005.

Pentref diolchgar yw Dregolwyn - pentref heb gofeb i'r Rhyfel Byd Cyntaf, lle ddaeth pob milwr yn ôl o'r rhyfel.

Roedd y nofelwraig enwog Agatha Christie yn arfer ymweld â'r pentref yn aml ac mae rhai o'i disgynyddion yn dal i fyw yno.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Capel Seion
  • Cofeb ryfel (2014)
  • Eglwys Sant Fihangel a'r Holl Angylion
  • Ffermdy Pwllywrach
  • Neuadd y Pentref
  • Tafarn y Sycamore Tree

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tregolwyn (pob oed) (447)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tregolwyn) (57)
  
13.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tregolwyn) (314)
  
70.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tregolwyn) (48)
  
29.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan y Sycamore Tree". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-06. Cyrchwyd 2013-04-01.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]