Trefesgob, Casnewydd

Oddi ar Wicipedia
Trefesgob
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,137 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd686.33 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.584°N 2.88°W, 51.58686°N 2.87309°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000812 Edit this on Wikidata
Cod OSST391876 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Trefesgob, neu Llangadwaldr (neu Llangadwaladr Trefesgob).

Saif i'r dwyrain o ddinas Casnewydd, yn ward etholiadol Llan-wern. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,161.

Saif rhan ddwyreiniol o hen waith dur Llan-wern yn y gymuned hon. Heblaw pentref Trefesgob ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref mwy Underwood, a adeiladwyd yn y 1960au ar gyfer gweithwyr y gwaith dur.

Roedd yr ardal yn wreiddiol yn faenor eglwysig, a roddwyd i Esgob Llandaf yn y 6g yn ôl Llyfr Llandaf hyd at 1650. Mae olion plas yr esgob i'w weld fel mwnt, ac mae eglwys Sant Cadwaladr yn dyddio o'r 13g. Saif bryngaer o Oes yr Haearn ar ben Allt Chwilgrug.

Ymddangosodd 'Llan Gadwaladr' am y tro cyntaf mewn hen ddogfen yn dyddio'n ôl i 1136 a'r fersiwn Saesneg wedyn yn 1290: 'Bishton Manor of Llankadwder'. Trodd hwn yn 'Bishopiston' yn 1504 a daeth 'Tre Esgob' yn 1566.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trefesgob (Casnewydd) (pob oed) (2,137)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trefesgob (Casnewydd)) (244)
  
11.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trefesgob (Casnewydd)) (1693)
  
79.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Trefesgob (Casnewydd)) (305)
  
34.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2008)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]