Torfoli

Oddi ar Wicipedia
Poster sinema Catalaneg o oddeutu 1910. Mae Llyfrgfell ac Archifdy Ffilm Catalonia'n sganio ac yna'n torfoli'r trawsgrifo dogfennau fel hyn yn eu prosiect Transcriu-me!! (Trawsgrifia Fi!!!)
Torf-ariannu ar 'Crowdfunder.co.uk' yn Chwefror 2015; gyda'r diben o 'gael Mabon ap Gwynfor, Plaid Cymru, wedi ei ethol yn Ne Clwyd'.

Y broses o gael gwasanaethau, syniadau neu gynnwys drwy annog nifer fawr o gyfranwyr ar-lein yw torfoli. Mae hyn i'w gyferbynnu â'r dull traddodiadol o anfon llythyrau'n gofyn am gymorth er mwyn gwireddu prosiect.[1] Gellir defnyddio torfoli hefyd i rannu baich prosiect arbennig (a llafurus) rhwng nifer o bobl, neu 'dorf'.[2]

Bathwyd y term Saesneg "crowdsourcing" yn 2005[3] gan Jeff Howe, golygydd Wired, mewn erthygl o'r enw "The Rise of Crowdsourcing" The Rise Of Crowdsourcing"[4] Gellir olrhain y bathiad Cymraeg ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ar wefan Hacio'r Iaith.[angen ffynhonnell]

Gall y torfoli fod ar gyfer ystod eang o weithgareddau.[3] Enghreifftiau o dorfoli yw: torf-ariannu, torfoli cystadleuaeth eang ei natur, ymchwil ar-lein am ateb i broblem neu berson ar goll. Gellir defnyddio torf o bobl i sawl pwrpas gan gynnwys torf-brofi, sef profi meddalwedd gan nifer o bobl er mwyn ei wella; erbyn 2014 defnyddiwyd y dull hwn o brofi meddalwedd gan 55% o gwmnïau. Gellir defnyddio lliaws o bobl yn yr un modd i ateb problem algebra, ac ystyrir hyn yn fath o 'gyfrifiaduraeth ddynol'.

Defnyddiwyd torfoli yn Gymraeg er mwyn creu'r llinell amser: Hanes y We yn Gymraeg Archifwyd 2014-12-19 yn y Peiriant Wayback. gan Dr Rhodri Llŷr ap Dyfrig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Crowdsourcing - Definition and More". Merriam-Webster.com. August 31, 2012. Cyrchwyd 2014-02-03.
  2. Howe, Jeff (2006). "The Rise of Crowdsourcing". Wired. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  3. 3.0 3.1 Safire, William (5 Chwefror 2009). "On Language". New York Times Magazine. Cyrchwyd Mai 19, 2013.
  4. The Rise of Crowdsourcing; www.wired.com