Tom Beynon

Oddi ar Wicipedia
Tom Beynon
Ganwyd3 Mehefin 1886 Edit this on Wikidata
Cydweli, Mynydd-y-garreg Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 1961 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, hanesydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Hanesydd o Gymro oedd Tom Beynon (3 Mehefin 188610 Chwefror 1961). Roedd yn arbenigwr ar hanes Ymneilltuaeth yng Nghymru, yn enwedig hanes y Methodistiaid Calfinaidd.

Ganed Tom Beynon ger Cydweli, yn Sir Gaerfyrddin. Ar ôl astudio diwinyddiaeth yng Ngholeg y Bala aeth yn weinidog.

Cyhoeddodd nifer o erthyglau a bu'n olygydd cylchgrawn hanes y Methodistiaid am gyfnod. Ei brif waith academaidd oedd golygu llythyrau Howel Harris. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o atgofion a hanesion am ei fro enedigiol hefyd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Llythyrau Howel Harris (golygydd):

  • Howell Harris, Reformer and Soldier (1958)
  • Howell Harris's visits to London (1960)
  • Howell Harris's visits to Pembrokeshire (1966)

Atgofion:

  • Allt Cunedda (1935)
  • Cwnsêl a Chefn Sidan (1946)


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.