Thomas James (1593–1635)

Oddi ar Wicipedia
Thomas James
Ganwyd1593 Edit this on Wikidata
Y Fenni Edit this on Wikidata
Bu farw1635 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethfforiwr, capten morwrol Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd y Capten Thomas James (1593–1635) yn gapten môr o Gymru, yn nodedig fel fforiwr, a aeth ati i geisio darganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin, y llwybr cefnforol a obeithiwyd oedd yn mynd o amgylch copa Gogledd America i Asia.[1][2][3]. Mae ymhlith nifer o anturwyr o Gymru a fu’n fforio a darganfod ers y 17g ac yn enwi’r mannau roeddent yn eu darganfod ar ôl rhannau o Gymru. Rhoddodd enw'r Hafren (Severn[4]) i un o’r afonydd yn Bae Hudson (Kangiqsualuk ilua neu Tasiujarjuaq) ac fel llawer o fforwyr eraill enwyd mannau neu llefydd ar ei ôl. Enwyd bae ar arfordir deheuol Bae Hudson, yn James Bay, gan mai Thomas James oedd ymhlith y rhai cynharaf i’w ddarganfod.[1] (Enw frodorol (Crî) y bae yw Wînipekw).

Cefndir[golygu | golygu cod]

Does dim sicrwydd pendant, ond mae'n debyg bod Thomas James wedi ei eni yn Wern y Cwm, Llanddewi Ysgyryd, ger y Fenni yn Sir Fynwy, yn fab i Siams ap Siôn ap Rhisiart Herbert ac Elisabeth Hywel ei wraig. Roedd ganddo o leiaf un brawd hŷn, John (a bu farw mis Ebrill 1636). Mae rhai wedi awgrymu mae un yn enedigol o Fryste oedd y Capten Thomas James, ond mae hynny'n hynod annhebygol[5]. Mae rhai o'r enwau a fathodd ar gyfer lleoliadau y daeth ar eu traws ym Mae Hudson yn rhoi awgrym clir ei fod yn ŵr o Went: New Principality of South Wales, The South Principality of Wales a Cape Monmouth. Pe bai wedi cael ei eni ym Mryste, fel mae rhai'n honni, mae'n annhebygol y byddai wedi dewis enwau fel y rhain.[6]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod]

Derbyniwyd y Capten Thomas James i'r Deml Fewnol ym 1612 a chymhwysodd fel bargyfreithiwr. Nid oes unrhyw gofnod iddo erioed ymarfer y gyfraith ac os gwnaeth, rhaid bod hynny am ychydig flynyddoedd yn unig. Mae'n amlwg ei bod wedi magu dawn ysgrifennu, dysg a chwilfrydedd gwyddonol. Roedd ei sgiliau mathemateg mordwyo yn anghyffredin am ei gyfnod. Rhywbryd rhwng 1612 a 1628, rhoddodd y gorau i weithio ym myd y gyfraith a throi ei olygon at fywyd ar y môr. Erbyn 1628 roedd yn Gapten ar herwlong o'r enw Dragon of Bristol.[6]

Y ras am dramwyfa[golygu | golygu cod]

Er mwyn ei gwneud yn haws i gyrraedd nwyddau gwerthfawr India a gweddill Asia, bu sawl ymgais i ganfod ffordd yno heb orfod mynd heibio tiroedd gwledydd oedd yn elyniaethus at Loegr megis Ymerodraeth Sbaen ac Ymerodraeth Ottoman. Un o'r llwybrau y bu sawl ymgais flaenorol (ac aflwyddiannus) i'w ganfod oedd Tramwyfa'r Gogledd Orllewin - llwybr yn mynd drwy'r Artig rhewllyd i'r gogledd o Ganada.[7] Ar ôl clywed bod criw o farsiandwyr o Lundain yn codi arian ymgeisio o'r newydd i ganfod y dramwyfa, dechreuodd marsiandwyr Bryste boeni y byddai llwyddiant Llundain yn cael effaith andwyol ar eu masnach forwrol hwy, a phenderfynasant ariannu ymgais o Fryste hefyd. Penodwyd y Capten Luke Foxe i arwain ymgais Llundain a'r Capten Thomas James i arwain ymgais Bryste.[5]

Ers i Iago I & VI esgyn i orsedd Lloegr, arwyddodd ef a'i fab Siarl I nifer o gytundebau oedd yn rhoi hawliau monopoli i Lundain. Ofn marsiandwyr Bryste oedd, pe bai ymgais Llundain yn llwyddo i ganfod y dramwyfa, y byddai'r brenin yn rhoi monopoli i'w defnyddio i farsiandwyr Llundain. Mantais cael un oedd yn gyfreithiwr, yn ogystal â chapten medrus, i arwain eu hymgyrch oedd y byddai'n gallu cael cytundeb cyfreithiol oedd yn dal dŵr yn llys y brenin. Yr hyn roeddent yn ei fynnu oedd sicrwydd pe baent yn llwyddo eu hunain, neu'n llwyddo ar y cyd â'r llong o Lundain i ganfod y dramwyfa, y byddai unrhyw fasnach newydd a fyddai'n yn deillio o hynny ar gael iddynt hwy hefyd, ac nid i Lundain yn unig. Byddai cefndir cyfreithiol James hefyd yn sicrhau bod Foxe yn cadw at y cytundeb ar ôl ymadael â thraethau Prydain.

Y daith[golygu | golygu cod]

Taith Thomas James (1631-2)

Cychwynnodd taith yr Henrietta Maria (enw'r frenhines), llong 70 tunnell, o Fryste ar Fai 3 1631[5]. Mae'n debyg nad oedd gan yr un o'r 23 criw, gan gynnwys y Capten, profiad blaenorol o'r Arctig. Hyn yn fwriadol i osgoi unrhyw sialens i awdurdod yr arweinydd. Ar Fehefin 5 cyrhaeddwyd y rhew ger Culfor Davis[8]. Treuliwyd bron mis i gyrraedd Culfor Hudson[9] ac ni fu modd mynd yn bellach nag Ynys Tujjaat (Nottingham). Ar Orffennaf 16 bu rhaid troi i'r De, i Fae Hudson (Kangiqsualuk ilua neu Tasiujarjuaq ). Trwy gydol Gorffennaf ag Awst 'roedd Thomas James a Luke Foxe yn archwilio'r un arfordiroedd. Gwelodd llongwyr Foxe mwg gwersyll llongwyr James ar Ynys Resolution ar Fehefin 23, ond ni chyfarfu'r ddau tan Orffennaf 29/30 pryd rhannodd y ddau ddiwrnod a phryd o fwyd ar fwrdd yr Henrietta Maria. Mae'n debyg mai dilornus o'i westywr yw cofnodion Foxe o'r cyfarfod. Rhoddodd Thomas James yr enw New Principality of South Wales[6] ar arfordir de Bae Hudson a New Severn ar aber fawr afon a llifai i'r môr yno [4]. Ar Awst 11 rowndiodd penrhyn a fedyddiodd yn Henrietta Maria a chyrraedd bae mawr a enwyd, yn ddiweddarach, ar ei ôl - Bae James.

Bwriad Thomas James oedd darganfod ffordd i Afon St Lawrence (ryw 800 km i'r de) ond erbyn mis Hydref bu rhaid aros lle yr oeddent ger Ynys Sivukutaitiarruvik[10] (Charlton oedd yr enw a rhoddwyd arno gan Thomas James, er anrhydedd i'r Tywysog Siarl)[5]. Gosodwyd cabanau ar yr ynys a suddwyd y llong yn fwriadol (ar Dachwedd 29) mewn ymgais i'w harbed rhag gerwinder y gaeaf. Hwn oedd y tro cyntaf i anturwyr o Ewrop sefydlu gwersyll gaeaf bwriadol yn Arctig Canada. Bu diffyg profiad Thomas James a'i griw yn fwrn enfawr arnynt. Erbyn mis Chwefror roedd pedwar ohonynt wedi marw a'r Clefyd Llwg (sgyrfi) ar y rhan fwyaf o'r gweddill. Methiant bu ymgais i adeiladu llong fechan (rhag ofn na fyddai modd adfer yr Henrietta Maria). Trwy gydol y cyfnod hwn cadwodd Thomas James cofnodion gwyddonol manwl - yn nodi, yn arbennig, ffenomenau a ddaeth yn sgil yr oerfel dwfn.

Daeth achubiaeth gyda'r gwanwyn. Sylweddolwyd bod modd adfer y llong, ac erbyn mis Mehefin 'roedd modd ail osod y llyw yn ei le a hwylio i ddŵr dwfn. Er bod y nosweithiau yn dal yn oer, roedd mwy i ddioddef o wres y dydd a'i phryfed mân poenus. Adferwyd eu hiechyd wrth fwyta'r llystyfiant gwyrdd. Ffarweliwyd a'r meirw, a'r ynys, ar Orffennaf 1 (1632). Roedd Thomas James wedi cyfansoddi cerdd ar gyfer yr angladd - y cyfeiriwyd ati, yn ddiweddarach, gan Robert Southey (Omniana (1812)). Y diwrnod canlynol, ar Ynys Danby, canfuwyd olion posib taith olaf Henry Hudson yn yr ardal yn 1611 (pryd y'i gadawyd i farw ar ôl i'w griw gwrthryfela). Cymerwyd tair wythnos i gyrraedd Penrhyn Henrietta Maria ac yna hwyliwyd ar draws Bae Hudson, gan gyrraedd Ynys Tujjaat (Nottingham) ar Awst 24. Heb wybod bod Luke Foxe eisoes wedi'i mapio'r flwyddyn gynt ar ei ffordd adref, ceisiodd Thomas James archwilio Swnt Foxe (fel e'i gelwid heddiw) gan gyrraedd 65°30' Gog cyn troi am adref ei hun. Cyrhaeddodd Bryste ar Hydref 22 (1632) a'r llong ar fin dadfeilio.

Mordaith Foxe oedd yr un mwyaf ffrwythlon o'r ddwy. Ond bu llyfr Thomas James, The Strange and Dangerous Voyage of Captaine Thomas James, a gyhoeddwyd ym 1633 [11] yn llwyddiant mawr. Cred rhai mai ohoni daeth rhai o fanylion yr Ancient Mariner yng ngherdd Samuel Taylor Coleridge (1798) a dyfynnwyd yn eang ohoni gan Robert Boyle (New experiments and observations touching cold. (1665)). Roedd Thomas James wedi profi nad oedd llwybr ymhellach i'r gorllewin i'r de o 65° Gog. Bu hwn yn ddigon i atal ymgyrchoedd darganfod y Dramwyfa hyd at 1719 pan ddechreuodd cyfnod newydd wrth i James Knight[12] (yn 80 oed !) diflannu i ddyfnderoedd Bae Hudson ar ei daith olaf.

Fel cydnabyddiaeth am ei ymdrechion fe gafodd ei benodi gan y brenin yn benswyddog llong frenhinol HMS 9th Whelp ar 16 Mai 1633. Ei orchwyl gyda'r llong oedd clirio Môr Hafren a Môr Iwerddon o fôr-ladron. Fe lwyddodd i gipio llong môr-ladron oddi ar arfordir Aberdaugleddau. Dyma'r cyntaf o nifer o lwyddiannau tebyg iddo eu cael. Roedd mor llwyddiannus yn ei waith fel bod Arglwydd Raglaw Iwerddon wedi ysgrifennu llythyr yn ei glodfori at Arglwyddi'r Morlys yn eu hannog i roi dyrchafiad iddo ar y cyfle cyntaf.[13]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Cyn i Arglwyddi'r Morlys gael cyfle i'w ddyrchafu aeth James yn ddifrifol wael a bu farw ym 1635. Mae'n debyg bod gweddillion y capten wedi eu claddu yng Nghapel y Maer ym Mryste ond nid yw union leoliad ei fedd yn hysbys.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Owen, Rhodri (2013-03-01). "Putting Wales on the world map". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-16.
  2. The voyages of Captain Luke Foxe, of Hull, and Captain Thomas James, of Bristol, in search of a North-West Passage, in 1631-32 : with narratives of the earlier North-West voyages of Frobisher, Davis and others. Volume 1. Christy, Miller, 1861-. Cambridge. ISBN 978-0-511-70891-6. OCLC 911033228.CS1 maint: others (link)
  3. Williams, Glyn (2002). Voyages of Delusion. The Search for the Northwest Passage in the Age of Reason. London: Harper Collins. ISBN 0 00 653213 6.
  4. 4.0 4.1 Francis, Daniel. "Severn River". The Canadian Encyclopedia. Cyrchwyd Ebrill 8, 2021.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Cooke, Alan (2013). "Thomas James". Dictionary of Canadian Biography, Prifysgol Toronto. Cyrchwyd Ebrill 8, 2021.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 C. M. MacINNES; CAPTAIN THOMAS JAMES AND THE NORTH WEST PASSAGE; THE HISTORICAL ASSOCIATION OF THE UNIVERSITY, BRISTOL; 1967 Archifwyd 2020-06-16 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 11 Mehefin 2020
  7. "Northwest Passage | trade route, North America". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-06-11.
  8. Finlayson, Douglas (2015). "Davis Strait". The Canadian Encyclopedia. Cyrchwyd Ebrill 8, 2021.
  9. Marsh, James H. (2014). "Hudson Strait". The Canadian Encyclopedia. Cyrchwyd Ebrill 8, 2021.
  10. Y Llyfrgell Brydeinig, Early voyages for the Northwest Passage Archifwyd 2020-12-02 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 111 Mehefin 2020
  11. , The Strange and Dangerous Voyage of Captaine Thomas James ar Archive Org adalwyd 11 Mehefin 2020
  12. Dodge, Ernest (1982). "James Knight". Dictionary of Canadian Biography, Prifysgol Toronto. Cyrchwyd Ebrill 8, 2021.
  13. "James, Thomas (1592/3–1635), explorer and writer". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/14620. Cyrchwyd 2020-06-11.