Thomas Hobbes

Oddi ar Wicipedia
Thomas Hobbes
Portread o Thomas Hobbes gan John Michael Wright (1617–1694)
Ganwyd5 Ebrill 1588 Edit this on Wikidata
Westport Edit this on Wikidata
Bu farw4 Rhagfyr 1679 Edit this on Wikidata
Swydd Derby, Hardwick Hall Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwyddonydd gwleidyddol, mathemategydd, athronydd, economegydd, gwleidydd, hanesydd, cyfieithydd, ysgrifennwr, tiwtor yn y cartref, athronydd y gyfraith Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLeviathan, De Cive Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadPlaton, Aristoteles, Hugo Grotius, Francis Bacon Edit this on Wikidata
Mudiadathroniaeth wleidyddol, gwyddor gwleidyddiaeth, legal theory Edit this on Wikidata
llofnod

Athronydd gwleidyddol ac awdur o Sais oedd Thomas Hobbes (5 Ebrill 15884 Rhagfyr 1679), a oedd yn byw yn ystod cyfnod Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Sefydlodd ei lyfr Leviathan (1651) seiliau y rhan fwyaf o athroniaeth wleidyddol y Gorllewin. Yn ogystal â'r Lefiathan, un o'i weithiau eraill sy'n trafod yr un themau yw De Cive ("Y Dinesydd"). Mae gwaith Hobbes yn trafod natur dyn a'r angen am lywodraeth i'w reoli.

Syniadau Hobbes ar Ddyn[golygu | golygu cod]

Yn ôl Hobbes ein teimladau/nwydau ni sy'n ein rheoli, mae chwantau yn codi o'n natur ni. Casgliad pennaf Hobbes am ein natur ydy ein bod ni yn gyfartal yn gorfforol. Yr hyn a olyga yw ei bod hi'n bosib i'r gwanaf o ddyn drechu'r cryfaf drwy fod yn gyfrwys neu drwy dwyllo. Cred fod pawb ar yr run raddfa yn y cyflwr naturiol, yn gorfforol ac yn ddeallusol. Does neb yn derbyn rhagoriaeth neb arall drostynt. Felly yn y cyflwr naturiol cred pawb y gallent lwyddo cystal ar llall. Dydy hyn ddim yn broblem ond os ydyn nhw eisiau run peth, gyda'r chwant ar yr un gwrthrych, mae ymryson yn siŵr o ddigwydd. Yn De Cive mae Hobbes yn dweud na thro pobl yn syth at drais ond mae'n rhybuddio y gallasech redeg fewn i rywun or-falch felly y dylech fod yn barod am ymryson bob amser.

Syniadau Hobbes am lywodraeth[golygu | golygu cod]

Oherwydd y natur ddynol a'r tensiynau rhwng dynion noda Hobbes fod angen y Lefiathan. Mae'r enw Lefiathan yn dod o Lyfr Job a llyfrau eraill yn y Beibl, lle sonnir am Lefiathan - anifail anhygoel o fawr a greuwyd gan Dduw i greu ofn ar bobl, yn enwedig y balch; cyfeirir at Lefiathan fel duw meidrol. Mae Lefiathan Hobbes yn dod i fodolaeth ar sail cytundeb. Cydnabod y bydd natur dyn yn drech arnom ni i gyd, a chytuno felly i greu bwystfil mawr i ofalu amdanom ni. Mae Lefiathan yn gytundeb i greu trydydd person sydd uwchlaw ni i gyd. Mae'r Lefiathan uwchlaw’r gyfraith, does dim modd dwyn y Lefiathan o flaen y gyfraith, does dim hawl beirniadu’r Lefiathan yn gyhoeddus a does dim rhaniad grym i ddigwydd, y Lefiathan yw'r sofran yn unig.