Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi)

Oddi ar Wicipedia
Thomas Evans
FfugenwTomos Glyn Cothi Edit this on Wikidata
Ganwyd20 Mehefin 1764 Edit this on Wikidata
Gwernogle Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ionawr 1833, 1833 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, gwëydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Gweinidog, heddychwr, bardd a llenor Cymraeg o Sir Gaerfyrddin oedd Thomas Evans, a adnabyddir yn aml fel Tomos Glyn Cothi (20 Mehefin 176429 Ionawr 1833). Roedd yn bleidiol i egwyddorion y Chwyldro Ffrengig, yn un o sylfaenwr Undodiaeth yng Nghymru, yn fardd ac yn awdur sawl llyfr.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Tomos mewn bwthyn o'r enw Capel Sant Silyn, ger pentref Gwernogle, gogledd Sir Gaerfyrddin, ar 20 Mehefin 1764, yn fab i Ifan John a'i wraig a'r trydydd o'u chwech o blant. Dysgodd ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg ar yr aelwyd a chafodd grap ar ddarllen Saesneg mewn ysgol leol cyn mynd i ysgol yn Abertawe. Dychwelodd i'w fro wedyn a dilynodd grefft gwehydd, fel ei dad.[1]

Enillodd ei awydd am wybodaeth nawdd boneddigion lleol a chafodd fenthyg llyfrau gan bobl fel yr ysgolhaig y Dr Joseph Priestley. Undodiad oedd Priestley, a daeth Tomos i feithrin ei syniadau ef. Aeth i wasanaethu capel Ariaidd Alltyblaca, ger Llanybydder. Yno daeth dan ddylanwad Dafydd Dafis, Castell Hywel.[1]

Priododd a chafodd chwech o blant. Dechreuodd bregethu yn ei gartref, dan drwydded. Yn 1796 codwyd Tŷ Cwrdd Cwm Cothi ar lannau afon Cothi, capel cyntaf yr Undodiaid Cymreig. Pregethodd yno a daeth ei enw yn gyfarwydd i lawer.[1]

Ym mis Awst 1801, â llywodraeth Prydain yn dal i ofni canlyniadau'r Chwyldro Ffrengig, carcharwyd Tomos am ddwy flynedd yng ngharchar Caerfyrddin am gefnogi egwyddorion y chwyldro hwnnw. Treuliodd ei amser yno yn ysgrifennu geiriadur Saesneg-Cymraeg (cyhoeddwyd 1809).[1]

Yn 1811 derbyniodd alwad i ddod yn weinidog yr Hen Dŷ Cwrdd yn Aberdâr.

Cyhoeddodd sawl llyfr, cyfieithiadau o destunau Undodaidd Saesneg gan fwyaf. Roedd yn fardd hefyd a gyfansoddodd nifer o gerddi ar y mesurau rhydd yn lladd ar ryfel a brenhinoedd a chlodfori rhyddid. Cyhoeddodd gasgliad o gant o emynau at wasanaeth yr Undodiaid (1811).[1]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • An English-Welsh Dictionary neu Eir-Lyfr Saesneg a Chymraeg (Merthyr Tudful, 1809)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 J. J. Evans, Cymry enwog y Ddeunawfed Ganrif (Gwasg Aberystwyth, 1937).