Terens

Oddi ar Wicipedia
Terens
Portread o Terens o'r llawysgrif goliwiedig o'r 9g a elwir Codecs Vaticanus Latinus 3868, a gedwir yn Llyfrgell y Fatican.
Ganwyd185 CC Edit this on Wikidata
Carthago Edit this on Wikidata
Bu farw159 CC Edit this on Wikidata
Llyn Stymphalia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethawdur comedi, bardd, ysgrifennwr, dramodydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amY Brodyr, Andria, Eunuchus, Heauton Timorumenos, Hecyra, Phormio Edit this on Wikidata
Arddullcomedi Edit this on Wikidata

Dramodydd Rhufeinig hynafol oedd Terens (Publius Terentius Afer; tua 195 CC – tua 159 CC) sydd yn nodedig am ei gomedïau Lladin, chwech ohonynt sydd yn goroesi: Andria, Hecyra, Heauton Timorumenos, Eunuchus, Phormio, ac Adelphoe. Fel arfer, fe'i ystyrir yn gomedïwr gwychaf yr oes Rufeinig, yn ail i Plautus.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Mae'r ychydig o fanylion sydd gennym am fywyd Terens yn seiliedig ar ddwy ffynhonnell yn bennaf: y prologau i'w ddramâu, yn yr hyn mae'r awdur yn amddiffyn ei hun rhag ei feirniaid; a'r bywgraffiad ohono a briodolir i Suetonius, wedi ei ailysgrifennu gan y gramadegydd a rhethregwr Aelius Donatus o'r 4g yn ei esboniadau o'r chwe chomedi.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Terens yn gaethwas yng Ngharthago, Gogledd Affrica, yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain. Aeth i Rufain dan berchenogaeth y Seneddwr Terentius Lucanus, ac yno cafodd ei addysgu a'i ryddhau o'i gaethwasanaeth.

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Fel dyn rhydd, cafodd Terens ei dderbyn i Gylch Scipio, y garfan Roeg-garol o athronwyr, llenorion, a gwleidyddion a fu dan nawdd y Cadfridog Scipio Aemilianus.

Credir i Terens ysgrifennu ei chwe chomedi yn y cyfnod 166–160 CC. Mae'r hysbysebion cynhyrchu a ddodir ar flaen testunau'r dramâu yn cofnodi manylion o'r perfformiadau cyntaf, ac weithiau cynyrchiadau diweddarach. O'r rheiny, priodolir y dyddiadau canlynol i'r chwe chomedi: Andria (166 CC), Hecyra (165 CC), Heauton Timoroumenos (163&nbso;CC), Eunuchus (161 CC), Phormio (161 CC), Adelphoe (160 CC). Cafwyd ail a thrydydd gynhyrchiad o Hecyra yn 160 CC.

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod]

Teithiodd Terens i Wlad Groeg pan oedd yn 35 oed. Bu farw naill ai o salwch yng Ngroeg, neu mewn llongddrylliad ar y fordaith yn ôl i Rufain. Bu'n berchen ar ystâd fechan ar gyrion Rhufain, ar Ffordd Appius. Cafodd ei oroesi gan ei ferch.

Y dramâu[golygu | golygu cod]

Mae pedair o chwe chomedi Terens yn seiliedig ar weithiau'r dramodydd Groeg Menandros, a flodeuai canmlwydd a hanner cyn Terens. Wrth addasu'r esiamplau hynny o'r "Gomedi Newydd" Athenaidd ar gyfer cynulleidfa Rufeinig, aeth Terens ati i ysgrifennu prologau newydd, trosi'r geiriau i Ladin llafar yr oes, a chyflwyno rhywfaint o realaeth i'r straeon.

Hanes derbyniad ei waith[golygu | golygu cod]

Edmygai Terens gan awduron Rhufeinig diweddarach am burdeb ei arddull. Apeliodd ei waith hefyd at glasurwyr a dyneiddwyr y Dadeni Dysg, am iddo gyfuno teimladrwydd coeth (o'i gymharu â Plautus) ag arddull Lladin i'w efelychu, a argymhellwyd dysgu a pherfformio ei ddramâu fel rhan o addysg foesol.

Yn yr 16g a'r 17g byddai gweithiau Terens yn ffurfio sail i'r gomedi foesau, a dylanwadodd ar William Shakespeare a Molière.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]