Tasmina Ahmed-Sheikh

Oddi ar Wicipedia
Tasmina Ahmed-Sheikh AS
Tasmina Ahmed-Sheikh


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd Gordon Banks
Olynydd Luke Graham

Geni (1970-10-05) 5 Hydref 1970 (53 oed)
Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Ochil a De Swydd Perth
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Tadogaethau
gwleidyddol
eraill
Ceidwadwyr
Priod Zulfikar Sheikh
Plant 4
Alma mater Prifysgol Caeredin
Prifysgol Ystrad Clud
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Tasmina Ahmed-Sheikh (ganwyd 5 Hydref 1970) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ochil a De Swydd Perth; mae'r etholaeth yn siroedd Clackmannan a Perth a Kinross, yr Alban. Mae Tasmina Ahmed-Sheikh yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Tasmina yw Llefarydd Diwydiant a Buddsoddi'r SNP yn ogystal â bod yn Ddirprwy Arweinydd gwrthblaid Tŷ'r Cyffredin. Hi yw sefydlydd a chadeirydd Cymdeithas Merched Asiaidd yr Alban. Mae'n gyfreithwraig wrth ei galwedigaeth ac yn y gorffennol bu mewn busnes ac yn actores.

Etholiad 2015[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Tasmina Ahmed-Sheikh 26620 o bleidleisiau, sef 46% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +18.4 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 10168 pleidlais.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]