Tanc

Oddi ar Wicipedia
Tanc
Enghraifft o'r canlynolweapon functional class, vehicle functional class Edit this on Wikidata
Matharmored fighting vehicle Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1915 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysQ117213407, continuous track Edit this on Wikidata
GweithredwrAfghan National Army, Albanian Joint Forces Command, Byddin yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cerbyd ymladd amgaeëdig durblatiog iawn a arfogir â chanon a gynau peiriant yw tanc sy'n symud ar draciau treigl. Mae wedi'i fwriadu ar gyfer ymladd uniongyrchol.

Roedd nifer o fyddinoedd wedi bod yn ystyried y posibilrwydd o gael cerbydau o'r math yma cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Y Fyddin Brydeinig oedd y cyntaf i'w defnyddio mewn rhyfel, ar 15 Medi 1916. Ni fuont yn llwyddiannus iawn y tro hwnnw, ond yn fuan datblygwyd mathau mwy effeithiol.

Bu datblygiadau pellach rhwng y ddau ryfel byd. Yn yr Ail Ryfel Byd roedd y tanc yn arf o bwysigrwydd mawr, yn enwedig ar y ffrynt dwyreiniol, lle bu brwydrau tanc enfawr rhwng yr Almaen Natsïaidd a'r Undeb Sofietaidd, yn arbennig Brwydr Kursk yn 1943. Ymhlith y tanciau a gymerodd ran yn y rhain roedd y T-34 Sofietaidd a'r Tiger I a'r Panther Almaenig. Parhaodd y tanc i fod yn arf pwysig wedi'r rhyfel.