Taliesin Ben Beirdd

Oddi ar Wicipedia
Mae hon yn erthygl am y cymeriad chwedlonol. Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Taliesin (gwahaniaethu).

Bardd a ganai yn yr Hen Ogledd yn ail hanner y 6g oedd y Taliesin hanesyddol, ond gyda threigliad amser troes y bardd hanesyddol yn gymeriad chwedlonol a thadogwyd nifer o gerddi diweddarach arno yn yr Oesoedd Canol, yn aml dan yr enw Taliesin Ben Beirdd. I feirdd y cyfnod yr oedd y ddau Daliesin yn un cymeriad, a ystyrid yn sefydlydd y traddodiad barddol Cymraeg.

Cerddi a briodolir i Daliesin[golygu | golygu cod]

Priodoloir tua 270 o gerddi i Daliesin. Fe’u diogelir mewn 259 llawysgrif. Yn ogystal â'r cerddi hanesyddol ddilys i Urien Rheged ac Owain ab Urien, a cherddi crefyddol a doethineb amrywiol, ceir cyfres o gerddi yn Llyfr Taliesin, o natur chwedlonol a darogannol yn bennaf, a cherddi darogan yn Llyfr Coch Hergest. Ceir testunau eraill yn ogystal.

Ceridwen yn berwi'r perlysiau yn y pair, gyda Gwion Bach o'i blaen (llun gan J. E. C. Williams, tua 1900)

Yna ceir dosbarth mawr arall o gerddi, sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol, ac sydd yn dwyn rhyw berthynas â ffigur y Taliesin chwedlonol, neu’n ddaroganau a briodolir iddo. Mae’r rhan fwyaf o’r cerddi yn y dosbarth olaf yn dwyn cysylltiad, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, â’r chwedl Hanes Taliesin. Yn y chwedl honno adroddir hanes rhyfeddol Taliesin, o’i antur, yn rhith Gwion Bach, yn llys y dduwies Ceridwen, lle cafodd ysbrydoliaeth yr Awen o Bair Ceridwen, hyd at ei ailenedigaeth fel Taliesin a’i gampau wrth drechu beirdd llys Maelgwn Gwynedd a rhyddhau ei noddwr Elffin ap Gwyddno o garchar Maelgwn yn Negannwy, gan ddarogan diwedd y teyrn hwnnw.

Mae rhai o'r cerddi yn ymwneud ag ymryson barddol (yn llys Maelgwn ac yn gyffredinol) a’r ddysg draddodiadol am natur barddoniaeth, byd natur, hanes chwedlonol Cymreig a rhai o’r traddodiadau Beiblaidd ac apocryffaidd y disgwylid i fardd fod yn hyddysg ynddynt yn yr Oesoedd Canol. Ceir hefyd ddwy gerdd am rithiadau a bucheddau Taliesin a thair cerdd ddarogan arbennig am ddyfodol cenedl y Cymry.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]