Ségou

Oddi ar Wicipedia
Ségou
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth133,501 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1620 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAngoulême Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSégou Region Edit this on Wikidata
GwladBaner Mali Mali
Arwynebedd37 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr274 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau13.45°N 6.27°W, 13.4317°N 6.2157°W Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn ne canolbarth Mali, gorllewin Affrica, sy'n gorwedd 235 km (146 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Bamako ar afon Niger, tua hanner ffordd rhwng y ddinas honno a Mopti yw Ségou (hefyd Seku, Segu weithiau). Mae'n ganolfan weinyddol y rhanbarth o'r un enw. Sefydlwyd Ségou gan y bobl Bozo yn 1620, ar safle sy'n gorwedd tua 10 km (6.2 milltir) y tu allan i'r ddinas bresennol. Gyda phoblogaeth o tua 100,000, Ségou yw dinas drydedd fwyaf Mali.

Yn y gorffennol roedd Ségou yn brifddinas Ymerodraeth Bambara ac felly mae ganddi ran bwysig yn hanes Mali. Cyfeirir ati weithiau fel dinas y “Balanzan”, ar ôl y goeden acesia leol, acacia albida. Trwy gydol ei hanes mae Ségou wedi mwynhau perthynas masnachol agos â dinasoedd Djenné a Tombouctou (Timbuktu), ac mae'n aros yn ganolfan masnachu grawnfwyd a gwartheg er bod gwaith crochenwaith a physgota yn bwysig hefyd.

Marchnad Ségou

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Fali. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.