Syr John Nicholl

Oddi ar Wicipedia
Syr John Nicholl
Ganwyd16 Mawrth 1759 Edit this on Wikidata
Llan-faes Edit this on Wikidata
Bu farw26 Awst 1838 Edit this on Wikidata
Merthyr Mawr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolTori Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Gymru oedd Syr John Nicholl (16 Mawrth 1759 - 26 Awst 1838). Cafodd ei eni yn Llan-faes, Bro Morgannwg yn 1759 a bu farw yn Ferthyr Mawr. Bu Nicholl yn aelod o'r Cyfrin Gyngor, yn farnwr Uchel Lys y Morlys ac yn ficer cyffredinol i archesgob Caergaint. Addysgwyd ef yng Ngholeg Sant Ioan. Yn ystod ei yrfa bu'n Aelod Seneddol yn y Deyrnas Unedig. Roedd hefyd yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Roedd Nicholl yn ail fab i John Nicholl, tirfeddiannwr Llanmaes a Llanilltud Fawr, Sir Forgannwg. Ac Elizabeth, née Havard, ei wraig. Cafodd ei addysgu mewn ysgolion ramadeg yn y Bont-faen a Bryste ac yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen. Graddiodd gyda BCL (Baglor y Gyfraith Gyffredin) ar 15 Mehefin 1780 a DCL (Doethur y Gyfraith Gyffredin) ar 6 Ebrill 1785.

Priododd Judy merch a chyd aeres Peter Birt o Airmyn, Swydd Efrog a chastell Gwenfô, ger Caerdydd ym 1787.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Derbyniwyd Nicholl i Lincoln's Inn ym 1775, ond ni chafodd ei alw i'r bar. Ym 1785 fe'i cofrestrwyd fel eiriolwr yng Ngholeg Doethuriaid y Gyfraith Gyffredin. Cynorthwyodd Syr William Grant gyda'r ymchwiliad i gyflwr y gyfraith yn Jersey ym 1791. Ym 1798 cafodd ei urddo’n farchog yn baratoadol i olynu Syr William Scott fel eiriolwr y brenin. Fel eiriolwr y brenin fu'n rhoi cyngor cyfreithiol i'r Cyfrin Gyngor, yn arbennig ar gyfraith ryngwladol a morwrol .

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ym 1802 aeth Nicholl i'r senedd ar gyfer bwrdeistref bwdr Penryn yng Nghernyw. Roedd bwrdeistref bwdr yn sedd seneddol oedd a chyn lleied o etholwyr fel bod modd cael ei ethol iddi trwy lwgrwobrwyo neu o dan nawdd unigolyn o bwys yn yr etholaeth. Aeth ymlaen i gynrychioli etholaethau Hastings, a Great Bedwyn eto dan nawdd y sawl oedd yn "berchen" yr etholaethau. Yn y senedd bu'n siarad yn bennaf am y pynciau roedd yn arbenigo ynddynt: cyfraith ryngwladol a chyfraith y môr. Roedd yn wrthwynebydd i'r ymgyrch i roi hawliau cyfartal i Gatholigion ac Iddewon, ac ym 1825 safodd i lawr o sedd Great Bedwyn er mwyn ymladd fel ymgeisydd gwrth Catholig ar gyfer sedd Prifysgol Rhydychen. Wedi cael addewidion bod dros 740 o etholwyr am ei gefnogi, digon, fe dybiodd, i sicrhau ei ethol ond collodd yr etholiad o 612 pleidlais i 519 i Richard Heber, enwebai canghellor y brifysgol, yr Arglwydd Grenville. Ym 1826 cafodd ei enwebu eto gan ei noddwr yr Arglwydd Ailesbury i sedd Great Bedwyn. Pan ddiddymwyd yr etholaethau pwdr ac ehangwyd y bleidlais dan Y Ddeddf Diwygio Fawr, 1832 penderfynodd beidio i gystadlu am bleidleisiau a rhoddodd y gorau i'w gyrfa Seneddol.

Wrth wasanaethu fel Aelod Seneddol bu hefyd yn gwasanaethu fel barnwr yn y Llys Ewyllysiau ac Etifeddiaeth. Wedi ymadael a'r senedd cafodd ei benodi'n farnwr yn y Llys y Llynges. Bu hefyd yn Farnwr yn y llys eglwysig Cwrt y Bwâu hyd 1834 pan ymddiswyddodd i ddod yn Ficer Cyffredinol i Archesgob Caergaint

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Nicholl yn ei gartref Neuad Merthyr Mawr yn 79 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn eglwys y plwyf Merthyr Mawr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]