Synagog Merthyr

Oddi ar Wicipedia
Synagog Merthyr

Saif cyn-Synagog Merthyr ar Heol Bryntirion yn ardal Tre Thomas, Merthyr Tudful. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II a'r synagog bwrpasol hynaf yng Nghymru sy'n dal i sefyll; ers y 1980au mae wedi bod yn wag.[1] Adeiladwyd yn 1872.[2][3] Cafwyd caniatâd yn 2009 i'w droi yn fflatiau, ond serch hynny mae wedi aros yn wag heb fod unrhyw newid yn ei gyflwr.[4] Mae'n nodedig am ei phensarnïaeth Gothig fawreddog anarferol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Kadish, Sharman (2006). Jewish Heritage in England : An Architectural Guide. English Heritage., p. 203
  2. http://www.jewishgen.org/jcr-uk/Community/merth/index.htm
  3. Glamorgan: (Mid Glamorgan, South Glamorgan and West Glamorgan), Stephen R. Hughes, Anthony Ward, Yale University Press, 1995, tud. 438
  4. http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/merthyr-synagogue-thomastown-set-turned-2070867. Adalwyd 03/08/14
Eginyn erthygl sydd uchod am Ferthyr Tudful. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.