Swdan

Oddi ar Wicipedia
Swdan
Gweriniaeth Swdan
جمهورية السودان (Arabeg)

Jumhūriyyat as-Sūdān
Arwyddairالنصر لنا Edit this on Wikidata
Mathgweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad, gwlad a oedd unwaith yn enfawr Edit this on Wikidata
PrifddinasKhartoum Edit this on Wikidata
Poblogaeth40,533,330 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ionawr 1956 Edit this on Wikidata
AnthemNahnu Jund Allah Jund Al-watan Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAbdalla Hamdok Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner Swdan Swdan
Arwynebedd1,886,068 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDe Swdan, Tsiad, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Ethiopia, Eritrea, Yr Aifft, Libia, Cenia, Wganda, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Bir Tawil, Y Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau15°N 32°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCorff Deddfu Genedlaethol Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Cadeirydd y Cyngor Milwrol Trosiannol Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAbdel Fattah al-Burhan Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Swdan Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAbdalla Hamdok Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$34,230 million, $51,662 million Edit this on Wikidata
Arianpunt Swdan Edit this on Wikidata
Canran y diwaith15 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant4.353 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.508 Edit this on Wikidata
Am y rhanbarth, gweler Sudan (rhanbarth).

Gwlad fawr yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Gweriniaeth Swdan neu Swdan (hefyd Sudan neu Siwdan). Mae'n ffinio â'r Aifft i'r gogledd, Eritrea ac Ethiopia i'r dwyrain, De Swdan i'r de, Gweriniaeth Canolbarth Affrica a Tsiad i'r gorllewin a Libia i'r gogledd-orllewin. Mae'r Môr Coch yn gorwedd i'r gogledd-ddwyrain ac mae Afon Nîl yn llifo trwy'r wlad. Yn y Cyfrifiad Cenedlaethol diwethaf, roedd poblogaeth Swdan yn 40,533,330 (2017)[1].

Hanes[golygu | golygu cod]

Cerfddelw brenin Nubia.

Hanes cynnar Swdan[golygu | golygu cod]

Hyd at ddechrau'r 5ed ganrif, bron iawn, cefnogai'r Ymerodraeth Rufeinig dylwyth y Nobatae, a ddefnyddiai deyrnas Meroë fel amddiffynfa rhwng yr Aifft a thylwyth y Blemmyae. Tua'r flwyddyn 350 OC, daeth annibyniaeth Meroë i ben, pan ddinistriwyd y ddinas gan fyddin o Abyssinia.

Teyrnasoedd Cristnogol[golygu | golygu cod]

Erbyn y 6ed ganrif, ymddangosodd tair gwladwriaeth newydd: Nobatia yn y gogledd, Muqurra yn y canolbarth, ac Alawa (oedd a'i phrifddinas ger safle Khartoum heddiw). Tua 540, anfonodd Theodora, ymerodres Bysantiwm, genhadwyr i hybu'r Efengyl Gristnogol yn Nobatia. Derbyniodd brenhinoedd Nubia awdurdod patriarchaid eglwys Goptig yr Aifft.

Dyfod Islam[golygu | golygu cod]

Wedi sawl ymgais aflwyddiannus ar wladychiad milwrol, arwyddodd lluoedd Arabaidd o'r Aifft gyfres o gytundebau (AlBaqt) gyda'r Nubiaid. Bu'r cytundebau yn sail i berthynas yr Arabiaid a'r Nubiaid am gyfnod o dros 600 mlynedd. Lledaenodd Islam trwy'r ardal yn raddol iawn, trwy briodi a masnachu gyda mewnfudwyr a masnachwyr Arabaidd. Ym 1315, esgynodd tywysog o Fwslim o dras Nubiaidd i orsedd Dunqulah.

Ymddyngasodd dau grŵp Arabeg eu hiaith, y Jaali a'r Juhayna. Yn gorfforol, roeddynt yn ddi-dor gyda'r boblogaeth gyn-Islamaidd. Mae elfennau Arabaidd a Nubiaidd i ddiwylliant gogledd Swdan sydd ohoni.

Teyrnas Sinnar[golygu | golygu cod]

Yn y 17eg ganrif, ymddangosodd pobl y Funj yn neheubarth Nubia, gan gymryd lle adfeilion teyrnas Gristnogol, gan sefydlu As-Saltana az-Zarqa.

Rheolaeth o'r Aifft - 1821-1885[golygu | golygu cod]

Yn 1820, daeth gogledd Swdan dan reolaeth Muhammad Ali, rhaglaw yr Ymerodraeth Otomanaidd yn yr Aifft. Gydag annogaeth o Brydain, ceisiodd Ismail Pasha, estyn y ddylanwad Eifftaidd tua'r de yn y blynyddoedd 1863-1879.

Gwrthryfel Mahdaidd[golygu | golygu cod]

Ysgogwyd Muhammad ibn Abdalla i arwain wrthryfel oherwydd cam-lywodraeth Eifftaidd a dymuniad i burháu Islam yn Swdan. Ym 1885, lladdwyd y Cadfridog prydeinig Charles George Gordon, gadawodd yr Eifftiaid, a sefydlwyd wladwriaeth grefyddol Mahdaidd newydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.

Nodyn:Rheoli Awdurdod