Susan B. Anthony

Oddi ar Wicipedia
Susan B. Anthony
GanwydSusan Anthony Edit this on Wikidata
15 Chwefror 1820 Edit this on Wikidata
Adams, Massachusetts Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mawrth 1906 Edit this on Wikidata
o methiant y galon, niwmonia Edit this on Wikidata
Rochester, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethymgyrchydd dros hawliau merched, amddiffynnwr hawliau dynol, diddymwr caethwasiaeth, ysgrifennwr, ymgyrchydd hawliau sifil, ffeminist, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
TadDaniel Anthony Edit this on Wikidata
MamLucy Read Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod Edit this on Wikidata
llofnod

Ffeminist, swffragét a diwygiwr cymdeithasol Americanaidd oedd Susan B. Anthony (15 Chwefror 1820 - 13 Mawrth 1906) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ymgyrchu dros bleidlais i ferched. Chwaraeodd ran ganolog a blaenllaw yn yr ymgyrch i gael pleidlais i fenywod, sef yr hyn a elwir heddiw yn 'etholfraint'.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Yn enedigol o deulu o Grynwyr, crefydd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb cymdeithasol, casglodd ddeisebau gwrth-gaethwasiaeth pan oedd yn 17 oed. Yn 1856, daeth yn asiant gwladwriaeth Efrog Newydd ar gyfer Cymdeithas Gwrth-Gaethwasiaeth America (yr American Anti-Slavery Society).

Fe'i ganed yn Adams ar 15 Chwefror 1820 a bu farw yn Rochester, Efrog Newydd o niwmonia ac fe'i claddwyd yno, ym Mynwent Mount Hope. [1][2][3][4][5][6][7]

Ymgyrchu[golygu | golygu cod]

Yn 1851, cyfarfu ag Elizabeth Cady Stanton, a ddaeth yn gyfaill a chydweithiwr gydol oes iddi mewn gweithgareddau diwygio cymdeithasol, yn bennaf ym maes hawliau menywod. Yn 1852, sefydlodd Gymdeithas Ddirwestol Menywod Efrog Newydd (New York Women's State Temperance Society) ar ôl i Anthony gael ei hatal rhag siarad mewn cynhadledd dirwestol oherwydd ei bod yn fenyw. Yn 1863, fe wnaethant sefydlu Cynghrair Cenedlaethol y Merched Teyrngar (the Women's Loyal National League), a gynhaliodd yr ymgyrch ddeiseb fwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau hyd at hynny, gan gasglu bron i 400,000 o lofnodion i gefnogi diddymu caethwasiaeth.

Rhai cerrig milltir yn ei bywyd:

  • 1866, sefydlodd Cymdeithas Hawliau Cyfartal America (American Equal Rights Association), a fu'n ymgyrchu dros hawliau cyfartal i fenywod ac Americanwyr Affricanaidd.
  • 1868, cyhoeddodd bapur newydd ar hawliau merched o'r enw The Revolution.
  • 1869, sefydlodd Gymdeithas Genedlaethol Etholfraint y Merched (National Woman Suffrage Association) pan holltwyd am gyfnod byr mudiad y merched.
  • 1890, unwyd y mudiad yn ffurfiol; cyfunwyd eu sefydliad â'r Gymdeithas dros Etholfraint y Merched American Woman Suffrage Association, gydag Anthony yn arwain y gymdeithas newydd.
  • 1876, dechreuodd Anthony a Stanton gyd-ysgrifennu, gyda Matilda Joslyn Gage, ar yr hyn a dyfodd yn y pen draw i fod yn lyfryn chwe cyfrol: History of Woman Suffrage.

Ennill yr hawl i bleidleisio[golygu | golygu cod]

Yn 1872, cafodd Anthony ei harestio am bleidleisio yn ei thref enedigol, Rochester, Efrog Newydd, ac fe'i dyfarnwyd yn euog mewn achos llys a gafodd lawer o gyhoeddusrwydd. Er iddi wrthod talu'r ddirwy, gwrthododd yr awdurdodau gymryd camau pellach. Yn 1878, trefnodd Anthony a Stanton i Gyngres yr Unol Daleithiau dderbyn gwelliant ar gynnig, a roddodd, ar ddiwedd y dydd, yr hawl i ferched i bleidleisio.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Weriniaethol. Bu'n aelod o Ferched y Chwyldro Americanaidd am rai blynyddoedd. [8]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1973)[9] .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Disgrifiwyd yn: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Susan_B._Anthony.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 Anhysbys; Frances Willard (1893), Frances Willard; Mary Livermore, eds. (yn en), A Woman of the Century (1st ed.), Buffalo, Efrog Newydd: Charles Wells Moulton, LCCN ltf96008160, OL13503115M, Wikidata Q24205103
  3. Dyddiad geni: "Susan B. Anthony". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susan B. Anthony". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susan B. Anthony". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susan Brownell Anthony". "Susan B. Anthony".
  4. Dyddiad marw: "Susan B. Anthony". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susan B. Anthony". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susan B. Anthony". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Susan Brownell Anthony". "Susan B. Anthony".
  5. Achos marwolaeth: https://www.nytimes.com/1906/03/13/archives/miss-susan-b-anthony-died-this-morning-end-came-to-the-famous-woman.html. https://www.nytimes.com/1906/03/13/archives/miss-susan-b-anthony-died-this-morning-end-came-to-the-famous-woman.html.
  6. Tad: Leo van de Pas (2003) (yn en), Genealogics, Wikidata Q19847326, http://www.genealogics.org
  7. Mam: Leo van de Pas (2003) (yn en), Genealogics, Wikidata Q19847326, http://www.genealogics.org
  8. Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/susan-b-anthony/.
  9. https://www.womenofthehall.org/inductee/susan-b-anthony/.