Strycnin

Oddi ar Wicipedia
Strwythur gemegol strycnin.

Alcaloid crisialaidd yw strycnin sy'n wenwynig iawn. Defnyddir fel plaladdwr, yn enwedig i ladd adar a chnofilod bychain. Darganfuwyd gan y cemegwyr Ffrengig Joseph Bienaimé Caventou a Pierre-Joseph Pelletier ym 1818 yn y planhigyn Strychnos ignatii.[1] Heddiw defnyddir y rhywogaeth Strychnos nux-vomica i gael y gwenwyn.[2]

Gall strycnin fod yn angheuol i bobl. Mae'n effeithio ar y system nerfol ganolog, gan achosi aflonyddwch, gorfywiogrwydd o ran golwg a chlyw, confylsiynau, ac opisthotonus.[2] Mae'n bosib y bu farw Alecsander Fawr o ganlyniad i wenwyn strycnin.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pelletier and Caventou (1818) "Note sur un nouvel alkalai" (Note on a new alkali), Annales de Chimie et de Physique, vol. 8, pages 323-324. See also: Pelletier and Caventou (1819) "Mémoire sur un nouvel alcali vegetal (la strychnine) trouvé dans la feve de Saint-Ignace, la noix vomique, etc." (Memoir on a new vegetable alkali (strychnine) found in the St. Ignatius bean, the nux vomica, etc), Annales de Chimie et de Physique, vol. 10, pages 142 - 176.
  2. 2.0 2.1 Mosby's Medical Dictionary (St Louis, Missouri, Mosby Elsevier, 2009 [wythfed argraffiad]), t. 1770. ISBN 978-0323052900
  3. Graham Phillips. Alexander the Great. Murder in Babylon. Virgin Books, 2004. t. 239ff. ISBN 1 85227 134 5.
Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.