Stephen Bayly

Oddi ar Wicipedia
Stephen Bayly
Ganwyd7 Gorffennaf 1942 Edit this on Wikidata
Baltimore, Maryland Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAderyn Papur, Joni Jones, Rhosyn a Rhith Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr ffilm Americanaidd yw Stephen Bayly (ganwyd 7 Gorffennaf 1942). Ganed Bayly yn Baltimore UDA.

Coleg[golygu | golygu cod]

Yn y Brifysgol astudiodd drama a llenyddiaeth, yn ogystal â phensaernïaeth a chynllunio trefol (M.C.P. Prifysgol Pennsylvania) cyn ennill ysgoloriaeth i astudio fel Cymrawd Thouron yn Lloegr yn 1967. Wrth weithio ar ei draethawd doethur yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), dechreuodd ysgrifennu sgriptiau ffilm. Arweiniodd hyn at gysylltiad â chyfarwyddwr ifanc o'r enw Tony Scott, ac at drobwynt gyrfaol sylweddol. Cynhyrchodd Bayly ffilm gyntaf Tony, Loving Memory, a ddewiswyd ar gyfer y Critics' Week yng Ngŵyl Ffilm Cannes. Roedd yn fedydd tân i gynhyrchydd ifanc, ond yn ddechrau addawol dros ben iddo.

Sefydlodd Scott Free Enterprises gyda Tony a'i frawd Ridley Scott, ac fe gynhyrchodd Bayly nifer o ffilmiau teledu safonol gan gynnwys The Author of Beltraffio, a gyfarwyddwyd gan Tony. Roedd y ffilm yn un mewn cyfres ac yn gyd gynhyrchiad Ewropeaidd arloesol oedd yn cynnwys nifer o gyfarwyddwyr adnabyddus megis Claude Chabrol a Volker Schloendorf. Chwaraeodd rôl allweddol yn natblygiad y ffilm The Duellist, sef ffilm nodwedd gyntaf Ridley Scott.

Y cam nesaf iddo oedd cofrestru ar gwrs cyfarwyddo yn yr Ysgol Ffilm Genedlaethol (NFTS heddiw).

Gwaith[golygu | golygu cod]

Ar ôl graddio yn yr 1980au cynnar, dechreuodd gyfarwyddo hysbysebion i Sid Robertson Production, cyn cynhyrchu ffilmiau ar gyfer y sianel Gymraeg newydd, S4C. Sefydlodd Red Rooster Film and Television gyda'r cynhyrchydd Linda James. Eu cynhyrchiad gyntaf oedd Joni Jones, a ddaeth yn rhan annatod a phwysig o arlwy S4C. Fe'i gwerthwyd ar draws y byd ac i gwmnïau mawrion megis Miramax a Disney. Dilynwyd hynny gan gyfres o ddramâu teledu llwyddiannus, gan gynnwys Aderyn Papur (1984) Rhosyn a Rhith (1986) a ddangoswyd yng Ngŵyl Ffilm Cannes yn 1986.

Yn 1988 fe gyfarwyddodd y comedi teuluol Just Ask for Diamonds, addasiad o nofel Anthony Horowitz lle'r oedd y cast yn cynnwys Susannah York, Bill Paterson a Roy Kinnear. Rhyddhawyd y ffilm gan HBO/Kings Road yn yr UDA a 20th Century Fox yn y DU. Cafodd ei chynnwys yn rhan o ôl-olwg o waith Bayly yng Ngŵyl Ffilm Houston yn 1989.

Y 1990au[golygu | golygu cod]

Treuliodd yr 1990au yn ehangu Red Rooster a chynhyrchwyd nifer o ffilmiau teledu megis In Patagonia gyda'r cyfarwyddwr Marc Evans. Prynwyd Red Rooster gan y Chrysalis Group, a sefydlodd Stephen yr adran adain ffilmiau nodwedd, Red Rooster Pictures.

Yng nghanol yr 1990au fe gynhyrchodd ffilmiau megis Richard III, a enwebwyd am ddwy wobr Academi ac enillodd Golden Bear ym Merlin, yn ogystal â nifer o wobrwyon BAFTA a gwobr ffilm gorau'r Evening Standard yn y DU. Yn 1996 cynhyrchodd Mrs Dalloway, oedd wedi selio ar nofel Virginia Woolf.

Yn 1997 gwahoddwyd Stephen i fod yn Gyfarwyddwyr a Phrif Weithredwr y National Film and Television School, lle treuliodd pum mlynedd lwyddiannus.

Y 2010 i'r presennol[golygu | golygu cod]

Ar ôl gadael yr NFTS yn 2003 fe sefydlodd Sly Fox Films gyda Linda James, ei bartner gwreiddiol yn Red Rooster, er mwyn ail-afael mewn creu adloniant perthnasol, crefftus. Mae gan Sly Fox nifer o ffilmiau maent yn datblygu gan gynnwys The Icarus Girl gan Helen Oyeyemi. Addasodd y nofel gyda chefnogaeth y Gronfa Gyfryngau Ewropeaidd. Mae Stephen a Linda hefyd yn darparu gwasanaeth ymgynghori i'r Diwydiannu Creadigol.

Fel ymgynghorydd, mae Stephen wedi helpu sefydlu'r Actors' Temple uchel ei barch yn Llundain sy'n fan hyfforddi i actorion sy'n arbenigo yn nhechnegau perfformio Sanford Meisner. Yn ogystal, mae'n ymgymryd â gwaith dysgu ac asesu i nifer o sefydliadau addysgol yn y DU. Ym Mawrth 2007 roedd yn ddarlithydd gwadd yn Ysgol Ffilm Ryngwladol Ciwba, ac yn Ebrill roedd yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Harvard, Boston.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Porth Esboniadur, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Stephen Bayly ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.