Sir fetropolitan

Oddi ar Wicipedia

Math o ardal llywodraeth leol yn Lloegr yw sir fetropolitan (Saesneg: metropolitan county). Crëwyd y chwe sir fetropolitan yn 1974 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a ddiwygiodd weinyddiaeth llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr yn drylwyr. Y chwe sir newydd oedd y cytrefi mwyaf y tu allan i Lundain Fwyaf, sef:

Rhannwyd pob sir fetropolitan yn nifer o fwrdeistrefi metropolitan, gan rannu pŵer a chyfrifoldeb gyda nhw mewn ffordd debyg y mae'r siroedd an-fetropolitan a'r ardaloedd an-fetropolitan yn rhannu pŵer. Fodd bynnag, diddymwyd cynghorau y siroedd metropolitan gan Deddf Llywodraeth Leol 1985, ac wedyn daeth y bwrdeistrefi metropolitan yn awdurdodau unedol sy'n annibynnol ar y sir i bob pwrpas.