Sir Gaerfyrddin (etholaeth seneddol)

Oddi ar Wicipedia

Roedd Sir Gaerfyrddin yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin Senedd y Deyrnas Unedig o 1542 hyd ei ddiddymu ym 1885. Roedd y sir yn dychwelyd un Aelod Seneddol hyd at 1832 pan ychwanegwyd ail gynrychiolydd.

Ym 1885 rhannwyd yr etholaeth yn ddwy sedd un aelod sef, Gorllewin Caerfyrddin a Dwyrain Caerfyrddin.

Tŵr Paxton

Un o etholiadau mwyaf nodedig yr etholaeth oedd Lecsiwn Fawr 1802 lle fu Syr James Hamlyn Williams yn sefyll ar ran y Torïaid a William Paxton ar ran y Chwigiaid. Gwarrwyd ffortiwn gan y naill ochor a'r llall i geisio sicrhau'r fuddugoliaeth[1]. Amcangyfrifir bod Paxton wedi gwario £15,690 ar golli'r frwydr (gwerth tua £15.5 miliwn, yn ôl cymhariaeth cyflogau, yn 2018).[2] Yn ôl traddodiad y fro adeiladwyd Tŵr Paxton ger Llanarthne fel prawf bod digonedd o arian ar ôl gan Paxton er gwaetha'r maint a afradwyd ar y Lecsiwn Fawr.

Aelodau Seneddol Cynnar[golygu | golygu cod]

Syr John Perrot (c. 1527-1592)
Blwyddyn Aelod
1542-1545 Ansicr
1545 Richard Devereux
1548 Syr John Perrott
1553 Henry Jones
1555 Richard Jones
1558 Syr Thomas Jones
1559 Richard Jones
1563 Syr Henry Jones
1572 John Vaughan
1576 Walter Vaughan
1584 Walter Rice
1586 Syr Thomas Jones
1588 Herbert Croft
1593 Walter Vaughan
1597 Syr Thomas Jones
1601 John Vaughan
1604 Syr Robert Mansell
1620 Syr John Vaughan
1624 Richard Vaughan

Cynrychiolaeth Seneddol yng nghyfnod Rhyfel Cartref Lloegr[golygu | golygu cod]

1629–1640 Dim Senedd

1640 Henry Vaughan (ar ran y Goron). Ym mis Chwefror cafodd Vaughan ei ddiarddel a bu'r sedd yn wag

1646 John Lloyd. Cafodd ei ddienyddio ym 1648 fel rhan o Garthiad Thomas Pride a bu'r sedd yn wag

1653 Doedd Sir Gaerfyrddin ddim yn cael ei gynrychioli yn senedd Barebones

Bu gan Sir Gaerfyrddin dau aelod yn Senedd Gyntaf y Protectoriaeth

1654 John Claypole a Rowland Dawkins

1656 Rowland Dawkins a Robert Atkyns

Doedd Sir Gaerfyrddin ddim yn cael ei gynrychioli yn Senedd y Rymp

1659 Thomas Hughes

1660 John Lloyd

1661 Yr Arglwydd Vaughan

Aelodau Seneddol hyd Ddeddf Diwygio 1832[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Aelod Plaid
1668 Syr Henry Vaughan
1677 Altham Vaughan
1679 Yr Arglwydd Vaughan
1685 Yr Arglwydd Vaughan
1689 Syr Rice Rudd
1701 Griffith Rice
1710 Syr Thomas Powell
1715 Ardalydd Winchester Whig
1717 Syr Thomas Stepney
1722 Edward Rice
1724 Syr Nicholas Williams
1745 John Vaughan
1754 George Rice
1779 John Vaughan
1784 Syr William Mansel
1790 Yr Anrh George Talbot Rice Tori
1793 Syr James Hamlyn
1802 James Hamlyn Williams
1806 Syr William Paxton
1807 Yr Arglwydd Robert Seymour Tori
1820 Yr Anrh. George Rice Rice-Trevor Tori
1831 Syr James Hamlyn-Williams Whig

Aelodau Seneddol 1832-1885[golygu | golygu cod]

Etholiad Aelod cyntaf Plaid cyntaf Ail aelod Ail blaid
1832 Yr Anrh. George Rice Rice-Trevor Ceidwadol Edward Hamlyn Adams Whig
1835 Syr James Hamlyn-Williams Whig
1837 John Jones ceidwadol
1842 is-etholiad David Arthur Saunders Davies Ceidwadol
1852 is-etholiad David Jones (hyd 1868) Ceidwadol
1857 is-etholiad David Pugh Rhyddfrydol
1868 Edward John Sartoris Rhyddfrydol John Jones Ceidwadol
1874 Frederick Campbell, Is-iarll Emlyn Ceidwadol
1880 Walter Rice Howell Powell Rhyddfrydol

Canlyniadau etholiad o 1832[golygu | golygu cod]

Etholiadau yn y 1830au[golygu | golygu cod]

(Ymgeiswyr efo * wedi eu hethol)

George Rice-Trevor
Etholiad cyffredinol 1832: Etholaeth Sir Gaerfyrddin
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Yr Anrh George Rice Rice Trevor* 1,853 37.1
Whig Edward Hamlyn Adams* 1,638 32.8
Whig Syr James Hamlyn-Williams 1,504 30.1
Etholiad cyffredinol 1835: Etholaeth Sir Gaerfyrddin
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Yr Anrh George Rice Rice Trevor* 2,204 36.8
Rhyddfrydol Syr James Hamlyn-Williams* 1,939 32.3
Ceidwadwyr John Jones 1,851 30.9
Etholiad cyffredinol 1837: Etholaeth Sir Gaerfyrddin
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Yr Anrh George Rice Rice Trevor* 2,486 36.9
Ceidwadwyr * John Jones* 2,173 32.3
Rhyddfrydol Syr James Hamlyn-Williams 2,068 30.8

Etholiadau diwrthwynebiad 1841-1865[golygu | golygu cod]

Cafodd George Rice Rice Davies a John Jones eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1841 ar ran y Ceidwadwyr. Bu farw John Jones ym 1842 ac etholwyd David Arthur Saunders Davies yn ddiwrthwynebiad i'w olynu ar ran y Ceidwadwyr.

Cafodd George Rice Rice Davies a David Arthur Saunders Davies eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1847 ar ran y Ceidwadwyr. Daeth Rice Trevor yn Arglwydd Dinefwr a'i ddyrchafu i Dy'r Arglwyddi ym 1852. Fe'i olynwyd yn ddiwrthwynebiad gan David Jones (Ceidwadwr).

Cafodd David Arthur Saunders Davies a David Jones eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1847 ac eto ym 1852. Bu Davies farw ym 1857 ac etholwyd David Pugh i'w olynu yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol.

Etholwyd David Pugh a David Jones yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1859 ac eto ym 1865.

Etholiadau 1868-1880[golygu | golygu cod]

(Ymgeiswyr efo * wedi eu hethol)

Etholiad cyffredinol 1868: Etholaeth Sir Gaerfyrddin
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Edward John Sartoris* 3,280 31.6
Ceidwadwyr John Jones* 2,942 28.3
Ceidwadwyr H Lavellin-Pukley 2,828 27.2
Annibynnol David Pugh 1,340 12.9

[3]

Is Iarll Emlyn
Etholiad cyffredinol 1874: Etholaeth Sir Gaerfyrddin
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Frederick Campbell Is-iarll Emlyn* 3,389 29.8
Ceidwadwyr John Jones* 3,261 27.7
Rhyddfrydol Walter Rice Howell Powell 2,799 23.8
Rhyddfrydol Edward John Sartoris 2,331 19.7
Etholiad cyffredinol 1880: Etholaeth Sir Gaerfyrddin
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Walter Rice Howell Powell* 4,101 41.7
Ceidwadwyr Frederick Campbell, Is-iarll Emlyn* 3,030 30.8
Ceidwadwyr John Jones 2,712 27.5

Diddymwyd y sedd ar gyfer etholiad 1885 a'i olynu gan etholaethau Gorllewin Caerfyrddin a Dwyrain Caerfyrddin.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. BBC - De Orllewin - Y Lecsiwn Fawr; adalwyd 7 Chwefror 2014
  2. Purchasing Power of British Pounds from 1245 to Present; adalwyd 7 Chwefror 2014
  3. "Etholiad Sir Gaerfyrddin", Seren Cymru, 4 Rhagfyr 1868; adalwyd 14 Chwefror 2014