Sir Frycheiniog (etholaeth seneddol)

Oddi ar Wicipedia

Roedd Sir Frycheiniog yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1542 hyd at 1918.

Crëwyd Etholaeth Sir Frycheiniog o dan Ddeddf Uno 1536, gan ddychwelyd ei AS gyntaf ym 1542. Mae'r etholaeth yn cynnwys sir hanesyddol Sir Frycheiniog. Enw'r etholaeth yn Saesneg yw Brecknockshire neu Breconshire (dylid gochel rhag drysu'r enw Saesneg efo Brecon sef enw etholaeth bwrdeistref Aberhonddu, a oedd yn ethol AS ar wahân i'r un sirol.) Am y rhan fwyaf o'i bodolaeth roedd yr etholaeth yn ethol un aelod i'r Senedd ac eithrio am gyfnod rhwng 1654 i 1659 pan etholwyd dau aelod i gynrychioli’r sir.[1] Diddymwyd yr etholaeth ar gyfer etholiad cyffredinol 1918 pan unwyd etholaethau Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed i greu etholaeth newydd Brycheiniog a Maesyfed

Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]

  • 1542 - 1547 John Games (neu ap Morgan)
  • 1547 - 1553 Syr John Price
  • 1553 - 1554 Syr Roger Vaughan
  • 1554 – 1558 Rhys Vaughan
  • 1558 – 1559 Watkin (neu Walter) Herbert
  • 1559 - 1562 Syr Roger Vaughan
  • 1562 - 1566 Rowland Vaughan,
  • 1566 - 1571 Matthew Arundell
  • 1571- 1572 Syr Roger Vaughan
  • 1572 - 1588 Thomas Games
  • 1588 - 1614 Syr Robert Knollys
  • 1614 - 1621 Syr Charles Vaughan
  • 1621 – 1625 Syr Henry Williams
  • 1625 - 1626 Syr Charles Vaughan
  • 1626 - 1628 John Price
  • 1628 - 1629 Henry Williams
  • 1629 – 1640 Dim Senedd
  • 1640 - 1650 William Morgan
  • 1650 - 1653 Y Cyrnol Phillip Jones
  • 1653 - 1654 Dim cynrychiolaeth

Yn ethol dau aelod o 1654

  • 1654 – 1656 Yr Arglwydd Herbert ac Edmund Jones
  • 1656 - 1659 Y Cyrnol Phillip Jones ac Evan Lewis

cynrychiolaeth yn dychwelyd i un aelod ym 1659

  • Ion 1659 – mai 1659 Edmund Jones
  • Mai 1659 - 1660 Y Cyrnol Phillip Jones
  • 1660 – 1661 Syr William Lewis
  • Ebrill 1661-Tachwedd 1661 Syr Henry Williams
  • 1661 – 1662 John Jeffreys
  • 1662 - 1679 Edward Proger
  • 1679 - 1685 Richard Williams
  • 1685 – 1690 Edward Jones
  • 1690 – 1695 Rowland Gwynne
  • 1695 – 1697 Edward Jones
  • 1697 – 1698 Syr Edward Williams
  • 1698 - 1702 Syr Rowland Gwynne
  • 1702 - 1705 John Jeffreys
  • 1705 – 1721 Syr Edward Williams
  • 1721 - 1734 William Gwyn Vaughan
  • 1734 – 1747 John Jeffreys
  • 1747 – 1769 Thomas Morgan
  • 1769 – 1787 Charles Morgan
  • 1787 - 1806 Syr Charles Gould (newid ei enw i Syr Charles Gould Morgan)
  • 1806 – 1847 Thomas Wood (Tori)
  • 1847 - 1858 Syr Joseph Bailey (Ceidwadwr)
  • 1858 - 1875 Yr Anrhydeddus Godfrey Morgan (Ceidwadwr)
  • 1875 – 1895 William Fuller-Maitland (Rhyddfrydwr)
  • 1895 - 1906 Charles Morley (Rhyddfrydwr)
  • 1906 – 1918 Sidney Robinson (Rhyddfrydwr)

1918 Diddymu'r etholaeth

Canlyniadau Etholiad[golygu | golygu cod]

Etholiadau rhwng 1832 a 1868[golygu | golygu cod]

Etholwyd Thomas Wood yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr yn etholiadau cyffredinol 1832 a 1835

Etholiad cyffredinol 1837: Sir Frycheiniog [2]

Nifer etholwyr 3,574

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Thomas Wood 1,222 68.2
Rhyddfrydol J P Gwynne Holford 570 31.8
Mwyafrif 652
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Etholwyd Thomas Wood yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 1841.

Etholwyd Syr Joseph Bailey yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr yn etholiadau cyffredinol 1847 a 1852 a 1857. Bu farw Baily ym 1858 ac etholwyd Yr Anrhydeddus Godfrey Charles Morgan yn ei le yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr mewn is etholiad a gynhaliwyd ar Ragfyr 28 1858.

Etholwyd Morgan yn ddiwrthwynebiad eto ym 1859, 1865 a 1868.

Etholiadau yn y 1870au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1874: Sir Frycheiniog [2]

Nifer etholwyr 3,574

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Yr Anrhydeddus Godfrey Morgan 1,594 60.6
Rhyddfrydol William Fuller-Maitland 1,036 39.4
Mwyafrif 558
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Dyrchafwyd Morgan i Dy'r Arglwyddi i olynu ei dad fel Arglwydd Tredegar ym 1875 a chynhaliwyd isetholiad ar Mai 22 1875

Is Etholiad 1875: Sir Frycheiniog [2]

Nifer etholwyr 4,256

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol William Fuller-Maitland 1,710 51.6
Ceidwadwyr Howel Gwyn 1,607 48.4
Mwyafrif 558
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Etholiadau yn y 1880au[golygu | golygu cod]

Etholiad Cyffredinol 1885: Sir Frycheiniog [3]

Nifer etholwyr 9,520

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol William Fuller-Maitland 4,784 59.3
Ceidwadwyr Yr Anrhydeddus A J Morgan 3,282 40.7
Mwyafrif 1,502 18.6
Y nifer a bleidleisiodd 84.7
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1886: Sir Frycheiniog [3]

Nifer etholwyr 9,520

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol William Fuller-Maitland diwrthwynebiad
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1890au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1892: Sir Frycheiniog [3]

Nifer etholwyr 10,551

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol William Fuller-Maitland 4,676 57.8
Ceidwadwyr Thomas Wood 3,418 42.2
Mwyafrif 1,258 15.6
Y nifer a bleidleisiodd 76.7 n/a
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1895: Sir Frycheiniog [3]

Nifer etholwyr 10,849

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Charles Morley 4,594 55.9
Ceidwadwyr Thomas Wood 3,631 44.1
Mwyafrif 963 11.8
Y nifer a bleidleisiodd 75.8
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1900au[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 1900: Sir Frycheiniog [3]

Nifer etholwyr11,584

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Charles Morley diwrthwynebiad n/a n/a
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd n/a
Etholiad cyffredinol 1906: Sir Frycheiniog [3]

Nifer etholwyr12,235

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Sidney Robinson 5,776 62.3
Ceidwadwyr Yr Anrhydeddus Robert Charles Devereux 3,499 37.7
Mwyafrif 2,277 24.6
Y nifer a bleidleisiodd 75.8
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1910[golygu | golygu cod]

Etholiad Cyffredinol Ionawr 1910: Sir Frycheiniog [3]

Nifer etholwyr13,432

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Sidney Robinson 6,335 62.1
Ceidwadwyr Yr Anrhydeddus Robert Charles Devereux 3,865 37.9
Mwyafrif 2,470 24.2
Y nifer a bleidleisiodd 75.9
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1910: Sir Frycheiniog [3]

Nifer etholwyr13,432

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Sidney Robinson 5,511 60.3
Ceidwadwyr John Conway Lloyd 3,631 39.7
Mwyafrif
Y nifer a bleidleisiodd
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1509-1558/constituencies/wales adalwyd Ion 5 2014
  2. 2.0 2.1 2.2 Wales at Westminster James, Arnold J a Thomas John E Gwas Gomer 1981
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 British parliamentary election results, 1885-1918 (Craig)