Sindarin

Oddi ar Wicipedia
Sindarin
Eglathrin
Crëwyd gan J. R. R. Tolkien
Dyddiad a sefydlwyd c. 1915 – 1973
Sefyllfa a defnydd Y byd ffuglennol, Middle Earth
Cyfanswm siaradwyr Sindar
Categori (pwrpas) Ieithoedd artiffisial
Categori (ffynonellau) iaith a priori, ond mae ganddi gysylltiau i ieithoedd yr ellyllon eraill. Dylanwadwyd Sindarin gan y Gymraeg yn bennaf.
Codau ieithoedd
ISO 639-1 Dim
ISO 639-2 art
ISO 639-3 sjn
Wylfa Ieithoedd

Iaith artiffisial a ddyfeisiwyd gan J. R. R. Tolkien[1] yw Sindarin, ac fe'i defnyddiwyd yn ei fyd eilaidd, a elwir yn Ganol-ddaear fel arfer. Yn chwedloniaeth Tolkien, roedd Sindarin yn iaith y Sindar, ‘yr Ellyllon Llwydion’. Seliwyd Sindarin ar y Gymraeg yn ei ffurf ac yn ei sain.

Gramadeg[golygu | golygu cod]

Ffonoleg[golygu | golygu cod]

Mae ffonoleg y Sindarin yn debyg i ffonoleg y Gymraeg.

Cytseiniaid[golygu | golygu cod]

  gwefusol deintiol gorfannol taflodol felar glotal
eglur ochrol
ffrwydrol p  b   t  d     k3 g  
trwynol m   n     ŋ4  
ffrithiol f  v θ  ð1 s     x5 h
tril     6 r        
lled-gyffwrdd       l  l̥2 j ʍ7  w  
  1. ysgrifennir <th> a <dh>
  2. ysgrifennir <lh>
  3. ysgrifennir <c>
  4. ysgrifennir <ng>
  5. ysgrifennir <ch>
  6. ysgrifennir <rh>
  7. ysgrifennir <wh>

Dyma gymhariaeth rhwng cytseiniaid y Sindarin gyda cytseiniaid y Gymraeg:

Sindarin p b f v th dh t d n s r rh l lh i c g ng ch w wh h
Cymraeg p b ff f th dd t d n s r rh l ll i c g ng ch w chw h

Treigladau[golygu | golygu cod]

Mae gan Sindarin system dreigladau sy'n debyg i'r a geir yn y Gymraeg:

Sindarin1 Cymraeg
meddal trwynol ‘stop’ (≈llaes)
p b ph ph
t d th th
c g ch ch
b v m
d (dr) dh (dhr) n (dr)
g (gl, gr, gw) ' (=) ('l, 'r, 'w) ng (gl, gr, gw)
lh tlh l thl
rh thr r thr
m v
s h
h ch ch ch
hw chw 'w w
meddal trwynol llaes
p b mh ph
t d nh th
c g ngh ch
b f m
d dd n
g ng
ll l
rh r
m f
  1. Gweld ‘Consonant mutations in conceptual evolution of Noldorin/Sindarin phonology’ (Saesneg) gan Ryszard Derdzinski ac yr adran berthnasol yn ‘Sindarin — yr iaith ardderchog’ (Saesneg), gan Helge Fauskanger.

Enghreifftiau o testunau[golygu | golygu cod]

Llythyr y Brenin[golygu | golygu cod]

Y llythyr, yn Nhegwar Beleriand
Fersiwn arall (gyda Thechtar)
Yn Sindarin Elessar Telcontar: Aragorn Arathornion Edhelharn, aran Gondor ar Hîr i Mbair Annui, anglennatha i Varanduiniant erin dolothen Ethuil, egor ben genediad Drannail erin Gwirith edwen. Ar e aníra ennas suilannad mhellyn în phain: edregol e aníra tírad i Cherdir Perhael (i sennui Panthael estathar aen) Condir i Drann, ar Meril bess dîn; ar Elanor, Meril, Glorfinniel, ar Eirien sellath dîn; ar Iorhael, Gelir, Cordof, ar Baravorn, ionnath dîn. A Pherhael ar am Meril suilad uin aran o Minas Tirith nelchaenen uin Echuir.
Yn Gymraeg Elessar Telcontar: Bydd Aragorn, marchogwr Edhelharn, brenin Gondor ac arglwydd Gwledydd y Gorllewin, yn mynd at Bont Farandwyn ar yr wythfed dydd o'r Gwanwyn, neu, yng nghyfrif y Sir ar yr ail ddydd Ebrill. Ac yno mae eisiau cyfarch ei holl gyfeillion arno : yn enwedig mae eisiau gweld y Tywysog Perhael [Hanercof] arno (a ddylid ei alw yn Banthael [Llawngof]) Maer y Sir, a Meril ei wraig; ac Elanor, Meril, Glorffinniel, ac Eirien ei ferched; ac Iorhael, Gelir, Cordof, a Baraforn, ei feibion. I Berhael ac i Feril, cyfarchiad Brenin Minas Tirith; y 31ain dydd o'r Cynhyrfiad.

Mae recordiad o'r llythyr ar gael yn Sindarin yma.

Cân y Ellyllon Imladris[golygu | golygu cod]

Y gân, yn Nhegwar Beleriand, o ‘The Road Goes Ever On
Yn Sindarin A Elbereth Gilthoniel / silivren penna míriel / o menel aglar elenath! / Na-chaered palan-díriel / o galadhremmin ennorath, / Fanuilos le linnathon / nef aear, sí nef aearon
Yn Gymraeg O Elbereth Gilthonel / wrth serennu fel gemau / disgyn gogoniant y sêr o'r nefoedd! / Wedi edrych ymhell bell / o canol-wledydd coed-wehyddol, / Bytholwen, mi ganaf i chi / ar yr ochr honno y môr, yma ar yr ochr honno y cefnfor

Record Tolkien o'r gân:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Conley, Tim (2006). Encyclopedia of Fictional and Fantastic Languages. Greenwood Publishing Group. ISBN 978-0313331886

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]