Silesia

Oddi ar Wicipedia
Silesia
Mathrhanbarth, ardal hanesyddol, ardal ddiwylliannol Edit this on Wikidata
PrifddinasWrocław Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladGwlad Pwyl, tsiecia, yr Almaen Edit this on Wikidata
Arwynebedd40,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51°N 17°E Edit this on Wikidata
Map

Rhanbarth hanesyddol yng nghanolbarth Ewrop yw Silesia (Pwyleg: Śląsk; Almaeneg: Schlesien; Tsieceg: Slezsko). Saif ar y ddwy ochr i afon Oder, a gellir ei rannu yn Silesia Isaf, sy'n wastadedd gyda dinas Wrocław (Breslau) fel canolfan. a Silesia Uchaf, sy'n fynyddig, ac yn cynnwys un o ardaloedd diwydiannol pwysocaf Ewrop yn y de-ddwyrain. Yn y canrifoedd diwethaf, mae'r ardal wedi bod ym meddiant Awstria-Hwngari a'r Almaen, ond ers 1945 mae'r rhan fwyaf wedi bod yn eiddo i Wlad Pwyl, gyda rhannau llai ym meddiant yr Almaen a Gweriniaeth Tsiec.

Tua#'r flwyddyn 1000 roedd ym meddiant Gwlad Pwyl, a sefydlodd Bolesław I Archesgobaeth Wrocław. O'r 12g ymlaen, daeth y boblogaeth yn Selesia Isaf yn fwyfwy Almaenig, ac eithrio ychydig o Sorbiaid Slafonig. Webyn y 14g roedd ym meddiant teyrnas Bohemia. Gyda Bohemia, daeth yn eiddo i deulu'r Habsburg yn 1526.

Wedi marwolaeth yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Siarl VI yn 1740, hawliwyd Silesia gan Ffrederic II, brenin Prwsia. Wedi tri rhyfel (1740-1742, 1744-1745 a 1756-1763) llwyddodd Ffredreic i gipio Silesia. Daeth yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen gyda Prwsia yn 1871.

Hen dirgiogaeth Silesia; ffiniau 1871 mewn melyn, ffiniau 1763 mewn glas. Ffiniau cenedlaethol heddiw mewn coch.