Sid Bevan

Oddi ar Wicipedia
Sid Bevan
Ganwyd2 Mai 1877 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw17 Hydref 1933 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Sidney "Sid" Bevan (2 Mai 187717 Hydref 1933) yn chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru a fu'n cynrychioli Cymru a'r Llewod Prydeinig. Chwaraeodd Bevan rygbi clwb i Abertawe, gan ymuno â'r clwb ym 1897.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd yn fab i Martin L. Bevan, fferyllydd a phostfeistr Treforys. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Ardwyn, Aberystwyth (lle fu'n chware i dîm pêl-droed y coleg). Bu'n gweithio fel clerc yn Swyddfeydd Gwaith Dur a Thunplat y Dyffryn.[1]

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Daeth Bevan i nod fel chwaraewr rygbi wrth gynrychioli'r tîm lleol Clwb Rygbi Treforys.[2] Ym 1897 symudodd i ochr dosbarth cyntaf, Abertawe, ac wrth chwarae i Abertawe cafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru. Ei gap cyntaf, a'i unig gap, oedd ar 2 Mawrth 1904 ar Faes Sioe Balmoral yn Belfast yn erbyn Iwerddon [3]. Yn yr un flwyddyn, dewiswyd Bevan i gynrychioli Llewod Prydeinig Bedell Sivright ar eu taith o Awstralia a Seland Newydd.[4] Chwaraeodd mewn pedwar o'r gemau prawf.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Bevan yn ddirprwy is-gapten yn 6ed Bataliwn y Gatrawd Gymreig.

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cymru[5]

Y Llewod

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Penybont: Seren. ISBN 1-85411-262-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Brifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "FOOTBALLERS' GALLERY - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1898-11-28. Cyrchwyd 2019-07-15.
  2. "MORRISTON v LAMPETER - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1898-02-09. Cyrchwyd 2019-07-15.
  3. "WALES v IRELAND - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1904-03-08. Cyrchwyd 2019-07-15.
  4. "Rugby Tourists Bound Home - The Cambrian". T. Jenkins. 1904-09-09. Cyrchwyd 2019-07-15.
  5. Smith (1980), tud 463.