Shah

Oddi ar Wicipedia

Gair Perseg sy'n golygu 'brenin' yw shah. Shah oedd teitl brenhinoedd Iran hyd chwarter olaf yr 20g, yn cynnwys y frenhinllin Achaemenid a unodd Persia a'i gwneud yn ganolfan ymerodraeth anferth a oresgynywd gan Alecsander Fawr. Yn ogystal â bod yn enw ar frenhinoedd Iran, gan amlaf yn y ffurf estynedig Shahinshah ("Brenin y brenhinoedd"), ceir enghreifftiau o shah, neu ffurfiau'n deillio ohoni, yn deitl ar frenhinoedd eraill yng ngorllewin Asia ac India.

Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Iran. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.