Sgan uwchsain

Oddi ar Wicipedia
Sgan uwchsain
Mathton acwstig, medical service, visualization Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebinfrasound Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae sgan uwchsain (sonograff) yn broses sy'n defnyddio seindonnau ac nid ymbelydredd i gynhyrchu delwedd o organ yn y corff. Caiff ei ystyried yn hollol ddiogel. Mae'r seindonnau ar amledd uchel iawn (10 MHz) nad ydynt yn ganfyddadwy i fodau dynol. Gall seindonnau basio drwy hylif a meinwe meddal ond nid gwrthrychau solet fel bustl, falf calon neu ffoetws. Pan fydd yr uwchsain yn taro yn erbyn gwrthrych solet mae'n adlamu ac yn gwneud atsain. Mae'r atseiniau ar wahanol gryfderau yn dibynnu ar ddwysedd y gwrthrych. Mae cyfrifiadur yn cyfieithu'r atseiniau hyn yn ddelwedd.

Defnyddir sgan uwchsain (sonograff) i greu delwedd o'r baban heb ei eni ar sgrin. Defnyddir sgan dyddio rhwng 8 ac 14 wythnos o feichiogrwydd i bennu oedran y baban, i wirio bod y baban yn datblygu'n dda ac i weld a yw'r fam yn disgwyl efeilliaid. Defnyddir sgan achos anrheolaidd rhwng 18 – 20 wythnos i wirio bod y baban yn iawn. Mae'n edrych ar yr aelodau, wyneb, pen, strwythur yr ymennydd a'r prif organau (calon, ysgyfaint, pledren, arennau a'r coluddyn).[1]

Gwefannau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)