Sefrou

Oddi ar Wicipedia
Sefrou
Mathdinas, urban commune of Morocco Edit this on Wikidata
Poblogaeth79,887 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBlotzheim Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Sefrou Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Arwynebedd10.5 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr850 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.83°N 4.83°W Edit this on Wikidata
Cod post31000 Edit this on Wikidata
Map

Dinas ym Moroco yw Sefrou (Arabeg:صفرو), a leolir 28 km o Fès, wrth droed mynyddoedd yr Atlas Canol. Mae'n brifddinas y dalaith o'r un enw, sy'n rhan o ranbarth Fès-Boulemane. Mae'n gorwedd 848 metr i fyny. Poblogaeth: 64,006 (cyfrifiad 2004).

Yn ddinas yn swyddogol ers 1917, cafodd Sefrou ei gwneud yn ganolfan weinyddol talaith newydd Sefrou ar y 1af o Ionawr 1991. Mae'n cynnwys 23 commune neu gymuned (5 dinesig a 18 gwledig).

Sefydlwyd dinas ar y safle yn y flwyddyn 806 gan Alamir Al-Masouri. Arosodd y Swltan Moulay Idriss yma wrth iddo adeiladu Fès. Ceir medina (dinas gaerog) sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol a sawl hen bont dros afon Oued Agaï.

Mae'n enwog am ei cheirios. Cynhelir Gŵyl Ceirios Sefrou yn flynyddol ac etholir merch leol yn 'Frenhines y Ceirios'.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato