Sawm

Oddi ar Wicipedia

Rhan o gyfres ar
Islam


Athrawiaeth

Allah · Undod Duw
Muhammad · Proffwydi Islam

Arferion

Cyffes Ffydd · Gweddïo
Ymprydio · Elusen · Pererindod

Hanes ac Arweinwyr

Ahl al-Bayt · Sahaba
Califfiaid Rashidun · Imamau Shi'a

Testunau a Deddfau

Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith
Fiqh · Sharia
Kalam · Tasawwuf (Swffiaeth)

Enwadau

Sunni · Shi'a

Diwylliant a Chymdeithas

Astudiaethau Islamig · Celf
Calendr · Demograffeg
Gwyliau · Mosgiau · Athroniaeth
Gwleidyddiaeth · Gwyddoniaeth · Merched

Islam a chrefyddau eraill

Cristnogaeth · Iddewiaeth

Gweler hefyd

Islamoffobia · Termau Islamig
Islam yng Nghymru

Yn athrawiaeth Islam, yr olaf o Bum Colofn y Ffydd (Arabeg: Arkân al-Dîn), a adnabyddir hefyd fel y Farâ'idh, yw Sawm neu siyâm, sef ymprydio yn ystod Ramadan, y mis sanctaidd.

Yr adeg honno mae bwyta bwyd o unrhyw fath, yfed, smygu, gwisgo peraroglau a chael perthynas rhywiol yn waharddedig o doriad y wawr hyd at fachlud yr haul. Nid oes disgwyl i blant ifanc, yr henoed neu rywun sy'n dioddef afiechyd meddwl ddilyn y rheolau hyn yn gaeth a gellir hepgor y sawm yn gyfangwbl pe bai'n rhaid. Mae gwragedd beichiog, mamau sy'n rhoi llefrith i'w babanod, rhywun sy'n dioddef afiechyd a theithwyr yn gallu gohirio'r siyâm a'i chyflawni yn ddiweddarach. Nid ystyrir fod cymryd ffisig yn torri'r ympryd.

Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.