Saitama

Oddi ar Wicipedia
Saitama
Mathdinasoedd dynodedig Japan, prefectural capital of Japan, satellite city, dinas fawr, dinas Japan, city for international conferences and tourism, educational town Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSaitama Edit this on Wikidata
PrifddinasUrawa-ku Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,325,843 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Mai 2001 Edit this on Wikidata
AnthemYume no Machi Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHayato Shimizu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Toluca, Zhengzhou, Nanaimo, Pittsburgh, Hamilton, Minamiaizu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSaitama Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
Arwynebedd217.43 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Arakawa, Q28693338, Afon Shiba, Afon Kamo Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAgeo, Kawaguchi, Asaka, Kawagoe, Shiki, Toda, Hasuda, Fujimi, Warabi, Kasukabe, Koshigaya, Shiraoka Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.8614°N 139.6456°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Saitama Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Saitama Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHayato Shimizu Edit this on Wikidata
Map
Saitama
Erthygl ynglŷn â'r ddinas yw hon. Am dalaith Saitama, gweler Saitama (talaith).

Dinas yn Japan yw Saitama (Japaneg:さいたま市 Saitama-shi), prifddinas talaith Saitama a 10fed dinas fwyaf Japan o ran poblogaeth. Gan ei bod wedi ei lleoli o fewn Ardal Tokyo Fwyaf tua 30 kilometr i'r gogledd o ganol Tokyo mae cyfran fawr o'i phobl yn cymudo i Tokyo. Wedi ei ffurfio ar 1 Mai 2001 a'i dynodi ar 1 Ebrill 2003, mae Saitama yn enghraifft o ddinas dynodedig yn Japan a ddynodwyd trwy ordinhad llywodraeth sydd yn cael eu ffurfio drwy uno trefi a phentrefi cyfagos sydd a phoblogaeth o dros 500,000. Yn wahanol i ran fwyaf o ddinasoedd Japan, ysgrifennir enw'r ddinas gan ddefnyddio'r hiragana, er mai dyma oedd ail ddewis mwyaf poblogaidd gan y cyhoedd mewn pleidlais i ddewis enw newydd y ddinas. Y dewis mwyaf poblogaidd oedd y ffordd draddodiadol o ysgrifennu enw'r ddinas, hynny yw trwy ddefnyddio kanji (埼玉市) fel enw'r dalaith.

Wardiau[golygu | golygu cod]

Mae i Saitama ddeg o wardiau (ku), pob un a'i liw penodedig ers April 2005:

1 – Chūō-ku (Ystyr: Canol) 中央区 (Pinc tywyll)
2 – Iwatsuki-ku 岩槻区 (Oren)
3 – Kita-ku (Ystyr: Gogledd) 北区 (Gwyrdd tywyll)
4 – Midori-ku (Ystyr: Gwyrdd) 緑区 (Gwyrdd)
5 – Minami-ku (Ystyr: De) 南区 (Melyn)
6 – Minuma-ku 見沼区 (Glas golau)
7 – Nishi-ku (Ystyr: Gorllewin) 西区 (Glas)
8 – Ōmiya-ku (Ystyr: Prif Gysegr) 大宮区 (Oren tywyll)
9 – Sakura-ku (Ystyr: Coeden Geirios) 桜区 (Pinc golau)
10 – Urawa-ku 浦和区 (Coch) – canolfan weinyddol
Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato