Rowland Meyrick

Oddi ar Wicipedia
Rowland Meyrick
Ganwyd1505 Edit this on Wikidata
Bu farw1566 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
PriodCatherine Barrett Edit this on Wikidata
PlantGelli Meyrick, Sir Francis Meyrick Edit this on Wikidata

Clerigwr o Ynys Môn a ddaeth yn Esgob Bangor oedd Rowland Meyrick (1505 - 25 Medi 1565). Bu ganddo ran flaenllaw yn hanes y Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Meyrick yn ail fab Meurig (Meyric) ap Llywelyn o blas Bodorgan a Margaret ferch Rowland ap Hywel, rheithor Aberffraw, yn 1505. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen pryd daeth i arddel y ffydd Brotestannaidd newydd. Yn nheyrnasiad Harri VIII o Loegr, cafodd reithoriaeth Stoke by Neyland yn Norfolk, ond symudodd yn ôl i Gymru yn fuan wedyn lle cafodd swydd yn rheithoriaeth Llanddewi Brefi. Treuliodd gyfnod fel canghellor Tyddewi a Wells, Gwlad yr Haf. Rhoddodd yr ail swydd heibio ac yn 1550 cofnodir ei fod yn ganghellor Esgobaeth Tyddewi, yn ganon Llanddewi Brefi ac yn rheithor ei blwyf enedigol, Llangadwaladr, Môn.[1]

Yn 1554 priododd Catherine ferch Owen Barret, un o uchelwyr Sir Benfro. Bu rhaid iddo ymddiswyddo oherwydd cyhuddiadau yn ei erbyn. Pan ddaeth Elisabeth I o Loegr i'r orsedd fe'i apwyntiwyd yn un o'r comisynwyr i arolygu eglwysi cadeiriol ac esbobaethau Cymru a'r Mers, sef Tyddewi, Llandaf, Llanelwy, Henffordd a Chaerloyw.[1]

Cafodd ei benodi yn Esgob Bangor gan Elisabeth I a'i urddo yn y swydd ar yr 21ain o Ragfyr 1559, yn 54 oed. Fe'i apwyntiwyd i Gyngor y Mers hefyd. Bu farw ar y 25ain o Fedi 1565. Fe'i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol Bangor gan adael ar ôl ei weddw, pedwar mab a dwy ferch.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Robert Williams, Enwogion Cymru (Llanymddyfri, 1852).