Ronald Gamarra

Oddi ar Wicipedia
Ronald Gamarra
Ganwyd10 Rhagfyr 1958 Edit this on Wikidata
Lima Edit this on Wikidata
Man preswylLima Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPeriw Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol San Marcos Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, academydd, cyfreithiwr, barnwr, gweithredwr dros hawliau LHDTC+ Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol San Marcos Edit this on Wikidata

Cyfreithiwr a gwleidydd o Beriw yw Ronald Álex Gamarra Herrera (ganwyd 10 Rhagfyr 1958) sy'n arbenigo mewn hawliau dynol. Mae'n un o'r cyfreithwyr sy'n cynrychioli teuluoedd dioddefwyr Barricos Altos a La Cantuta yn erbyn cyn-Arlywydd y wlad Alberto Fujimori.[1]

Rhwng 2001 a 2004 ef oedd Dirprwy Dwrnai Cyffredinol (ad hoc) Periw mewn achosion yn erbyn Fujimori a'i gynghorwr Vladimiro Montesinos. Roedd hefyd yn rhan o'r broses o esdraddodi'r cyn-Arlywydd yn ôl o Tsile. Rhwng 1988 - 2000 ef oedd cyfarwyddwr Rhaglen Gyfreithiol yr Instituto de Defensa Legal. Mae'n sgwennu colofn wythnosol yn y Lima dyddiol sef La República ac yn darlithio ym mhrifysgol Universidad Mayor de San Marcos.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rights lawyer confident Fujimori will get 30 years". The Standard. 24 Medi 2009. Cyrchwyd 24 Medi 2011.