Roger Roberts

Oddi ar Wicipedia
Y Parchedig a Gwir Anrhydeddus
Arglwydd Roberts o Landudno
Manylion personol
Ganed (1935-10-23) 23 Hydref 1935 (88 oed)
Rhiwabon
DinesyddCymro
Plaid gwleidyddolY Democratiaid Rhyddfrydol
Alma materYsgol John Bright
ProffesiwnGweinidog yr Efengyl
CrefyddWesleaid
Gwefanwww.lordrogerroberts.uk

Mae'r Parchedig John Roger Roberts (ganwyd 23 Hydref 1935), Yr Arglwydd Roberts o Landudno, yn weinidog gyda'r Eglwys Fethodistaidd (Wesleaidd) ac yn aelod Democratiaid Rhyddfrydol o Dŷ'r Arglwyddi[1].

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Roger Roberts yng Nghartref Mamolaeth Rhiwabon ar 23 Hydref 1935 yn fab hynaf i Thomas Charles Roberts ac Alice Ellen (cynt Parry) ei wraig. Ar adeg ei eni roedd teulu Roberts yn byw yn Nhŷ'r Plant Llanrwst ond ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd symudodd y teulu i dref Conwy er mwyn bod yn agosach i fan gwaith y tad ym Melin Llifo Morfa Conwy.[2]

Addysgwyd Roberts yn Ysgol John Bright, Llandudno, ym 1952 aeth yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ble ym 1955 y derbyniodd radd BA gydag anrhydedd. Ym 1958 aeth Roberts i Goleg Handsworth (coleg hyfforddi i ddarpar weinidogion Wesleaidd) ym Mirmingham lle cafodd radd BD.[3]

Gweinidogaeth[golygu | golygu cod]

Medi 2008

Cafodd Roberts ei dderbyn yn aelod o'r Wesleaid yng Nghapel y Tabernacl, Conwy. Penderfynodd ymgeisio am y weinidogaeth ar ôl clywed y Parch Dr Donald Soper, dyn a ragflaenodd Yr Arglwydd Roberts i ddyfod yn weinidog Wesla yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn pregethu ym Mangor.[4]

Bu Roberts yn weinidog ar brawf yng Nghylchdaith Aberdaron am flwyddyn cyn iddo fynd i'w hyfforddi i Handsworth, ar ôl graddio dychwelodd i Aberdaron fel gweinidog ordeiniedig.

Fe fu'n drefn yn Yr Eglwys Fethodistaidd i weinidogion symud cylchdaith (ardal eu gwasanaeth) yn rheolaidd, o dan y drefn honno bu Roberts yn weinidog yng Nghylchdeithiau Abergele, Llangollen a Llandudno; tra roedd yn Arolygydd Cylchdaith Llandudno ymlaciwyd rheolau symud parhaus yr enwad a bu'n gwasanaethu ardal Llandudno a Dyffryn Conwy am y mwyafrif o weddill ei yrfa fel gweinidog ac eithrio 6 mis o secondiad i gapel Dewi Sant Toronto yn 2003.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Denwyd Roger Roberts i wleidyddiaeth Ryddfrydol yn gynnar yn ei fywyd, yr oedd yn perthyn i'r hen drefn o Ryddfrydiaeth ac Anghydffurfiaeth Gymreig, teg yw dweud mai ef yw'r olaf yn y llinell hir o Bregethwyr Mawr Rhyddfrydiaeth Gymreig.

Tra'n fyfyriwr ym Mangor bu'n gweithio'n rhan amser fel trefnydd Rhyddfrydwyr etholaeth Ynys Môn ac fe fu'n trefnydd ymgyrch Etholiad Seneddol ei blaid ar yr Ynys ym 1959.

Safodd sawl etholiad dros achos y Rhyddfrydwyr ac yn niweddarach y Rhyddfrydwyr Democrataidd; bu'n ymgeisydd etholaeth Conwy yn Etholiadau San Steffan ym 1979, 1983, 1987, 1992 a 1997; bu'n ymgeisydd ar gyfer etholaeth Cymru yn Ewrop ym 1999 ac fe fu'n aelod ac yn arweinydd ei blaid ar Gyngor Aberconwy o 1976 i 1987 [5]

Fe fu Roberts yn Llywydd Plaid Ryddfrydol Cymru o 1980 i 1983 ac o Blaid y Y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru o 1990 i 1996.

Cafodd ei ddyrchafu yn Arglwydd yn 2004 ar ôl pleidlais ym mysg aelodau ei blaid, yr unigolyn cyntaf erioed i'w gael ei ethol i'r Tŷ.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Priododd Eirlys Ann Roberts (enw morwynol a phriodasol), ar 27 Hydref 1962, ganwyd iddynt un mab a dwy ferch, ond bu Eirlys farw ym 1995.

Yn 2010 cyhoeddodd yr Arglwydd Roberts o Landudno hunangofiant a argraffwyd gan Wasg y Bwthyn: Hel Tai - O Dŷ Plant i Dŷ'r Arglwyddi ISBN 9781907424120 [6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]